Nid yw'r haul a'i faith fendithion, Bywyd hardd y ddaear las, Sy'n llawenu pob creadur, Yn enwedig llysiau'r maes; 'Dyw ei harddwch a'i oleuni, A'i effeithiau ar y llawr, Onid dim, wrth eu cymmharu A rhinweddau Iesu mawr. Dyma'r gwrthddrych wyf yn caru Gwel'd ei degwch, hyfryd wawr; Peidied da, a pheidied dynion, Peidied cyfoeth daear fawr, Peidient sefyll yn ei gysgod, Ciliwch, ciliwch, rhoddwch le, - Ni chaiff dim o tan yr wybren Rwystro'm henaid ato 'fe. Bynag peth sydd mewn creadur, Fry, neu yma îs y rhôd, Neu beth bynag a ddych'mygwyd Mewn creaduriaid enwog fod; Saint, merthyron, a phrophwydi, Draw o ddechreu i ddiweda byd; Can' mil mwy o bethau'n rhagor Sydd yn Iesu mawr ynghyd. Holl angylion nef gwmpasog, Sydd o nifer gwlith y wawr, Pe bai'u tegwch a'u rhinweddau Oll mewn un rhyw angel mawr; T'wyllai'i harddwch mewn munydyn, Toddai'i ddoniau maith yn un, Wrth ymddangos i'w gymmharu A'r hwn wisgodd natur dyn. O distawa! 'nghalon yhfyd, Na chais wrthddrych arall mwy; Digon, mwy na digon ydyw, A ddioddefodd farwol glwy'; Ffarwel, ddaear, a'i gwrthddrychau, Nid wyt ond y twyll i gyd; Uwch y wybren mae'r blaguryn Dâl roi arno'm serch a'm bryd.
Tonau [8787D]: gwelir: Wyneb siriol fy Anwylyd |
The sun with its vast blessings is not, The beautiful life of the blue-green earth, Which is cheering every creature, Especially the plants of the field; Its beauty and its light are not, With its effects on the ground, Anything at all, in comparison To the virtues of great Jesus. Here is the object I am loving To see his fairness, a delightful dawn; Let beasts cease, and let men cease, Let the great earth's rich ones stop, Let them stop and stand in his shadow, Retreat ye, retreat ye, give ye way, - Nothing under the sky shall Keep my soul from him. Whatever is in a creature, Above, or here under the sky, Or whatever has been imagined In creatures of a famous being; Saints, martyrs, and prophets, Yonder from the beginning to the end of the world; A hundred thousand time more things superior Are in great Jesus altogether. All the angels of heaven encircling, Which are numerous as the dew of the dawn, If their fairness and their merits were All in one great angel; His beauty would darken in a minute, His vast gifts would melt as one, ON appearing in comparison To him who wore the nature of man. O be silent, foolish heart! Do not seek another object any more; Sufficient, more than sufficient he is, And he suffered a mortal wound; Farewell, earth, and its objects, Thou art nothing but all deception; Above the sky there is the shoot To keep putting on it my affection and my attention. tr. 2016,19 Richard B Gillion |
|