1,2,3,5; 1,(4),5; 1,6. Nid yw y ddaear fawr i gyd Yn deilwng o fy serch a'm bryd, Nac unrhyw wrthddrych yn y byd, 'Rwy'n caru gwrthddrych mwy: Nid llai y sawl wy'n garu yw Na pherffaith ddyn a pherffaith Dduw; Dioddefodd unwaith farwol friw: O! werthfawrocaf glwy'! Ni fyddai bywyd maith, pe cawn, Ond diddim a disylwedd iawn Heb gael rhyw ran o'th nefol ddawn Yn wastad i'w fwynhau: 'Does un o'm holl synwyrau i gyd, Nac un o nwydau'm henaid drud, A gwrthddrych iddo yn y byd, Am hyny, tyr'd yn glau. 'Rwy'n dlawd, 'rwy'n dlawd o'r oll yn awr, Nid wy'n cyttuno dim â'r llawr, 'Rwy'n griddfan dan anobaith mawr, Os hebot rhaid im fyw; Ac nid oes dim o dan y ne' Wna i fyny'r golled o hono fe, Na dim atteba yn ei le; Anfeidrol yw fy Nuw. yr holl wrthddrychau teg eu pryd Ag wyf yn garu oreu gyd, O gongl faith i'r llall o'r byd Ddiflanant wrth dy glun: Os unrhyw eilun ar y dòn, A gais rhyw loches tan fy mron, Yn uniawn mi ffieiddiaf hon, A charaf di dy hun. Wel, dyma'r cariad sydd yn awr Yn curo pob cariadau i lawr, Yn llyngcu enwau gwael y llawr Oll yn ei enw'i hun: O! fflam angerddol, gadarn, gref, O dân ennynwyd yn y nef! Tragwyddol gariad ydyw ef, Wnaeth Duw a minnau'n un. O! addfwyn Iesu! gad im' fod O fewn dy gorlan, dan dy nod, A phob rhyw nwydau dan fy nhroed, Yn gyflawn o dy hedd: Yn nghanol terfysg a phob gwae, Croes a chystuddiau'n amlhau, Heb fedru dim ond llawenhau, Nes gorwedd yn y bedd. unwaith :: trosof O! fflam :: Rhyw fflam - - - - - Nid yw y ddaear fawr i gyd Yn deilwng o fy serch a'm mhryd, 'Rwy'n caru gwrthddrych mwy; Sef perffaith ddyn â pherffaith Dduw, 'Rhwn a ddioddefodd farwol friw, O werthfawroccaf glwy'! Anfeidrol berffaith sanctaidd fôd Na foed im' bleser dan y rhôd, Yn rhagor na'th fwynhau: Ac os y pleser yma a gaf, Ymlynu wrthyt ti a wnâf, A hynny i barhau. A phe diffoddai'r haulwen fawr A phe diffygiai'r fore wawr, A th'wllwch gael ei le; Cawn drigo mewn sancteiddiol dir, Yn llewyrch haul cyfiawnder pûr Tu fewn i gaerau'r ne'.William Williams 1717-91
Tonau [8886D]: gwelir: Wel dyma'r cariad sydd yn awr |
Not all the great earth is Worthy of my affection and my attention, Nor any object in the world, I am loving a greater object: No less are those I am loving Than perfect man and perfect God; He suffered once a mortal bruise: O! most precious wound! Vast life would not be, if I had it, But nothing and very negligible Without getting some portion of thy heavenly gift Constantly to enjoy: There is not one of all my senses, Nor any of my precious soul's desires, That reflects him in the world, Therefore, come quickly! I am poor, I am the poorest of all now, I am not agreeing at all with earth below, I am groaning under great hopelessness, If without thee I must live; And there is nothing under heaven Makes up for losing him, Nor anything that answers in its place; Infinite is my God. All the objects of a fair appearance, That I love best of all, From a vast corner to the other of the world They shall disappear at thy hip: If any idol on the wave, That seeks some refuge under my breast, Directly I shall detest this, And I shall love thee thyself. See, here is love that is now Beating all loves down, Swallowing the poor names of the earth All in its own name: O passionate, firm, strong flame, Of fire enkindled in heaven! Eternal love it is, That made God and me as one. O gentle Jesus! let me be Within thy sheepfold, under thy mark, With all kinds of lusts under my feet, Completely from thy peace: In the midst of tumult and every woe, Cross and afflictions multiplying, Without being able to do anything but rejoice, Until lying in the grave. once :: for me O ... flame :: Some ... flame - - - - - Not all the great earth is Worthy of my affection and my mind, I am loving a greater object; That is perfect man with perfect God, He who suffered a mortal bruise, O most precious wound! An immeasurable, perfect, sacred being May I have no pleasure under the sky, More than to enjoy thee: And if this pleasure I have, Cling to thee I shall, And that to endure. And if the great bright sun were to extinguish And if the morning dawn were to fail, And darkness take its place; I would get to climb in a sacred land, In the radiance of the pure sun of righteousness Within the citadels of heaven.tr. 2019 Richard B Gillion |
|