O addfwyn Iesu rho i mi rym, Yn anhawdd wed'yn ni fydd dim, 'Rwyt ti dy hun yn fwy na 'maich; Mae'n ysgafn, ond it fod o'm tu, A'th iau yn hyfryd esmwyth sy; Anfeidrol ydyw grym dy fraich. 'Rwy'n rhoi ffarwel i'r oll i gyd A ffeindiodd natur yn y byd; Gwagedd o wagedd ynt o'r bron: 'Rwy'n gwel'd mai etifeddiaeth yw Tragwyddol gariad pur fy Nuw, Fy nghysur ar y ddaear hon. Rho, Arglwydd, im fo yn dy fryd, D'ewyllys gaffo'i gwneyd i gyd, Boed fy amserau yn dy law: Cyf'rwydda fi trwy'r anial maith, Saf wrth fy ochr ar fy nhaith, A dwg fi i'r Baradwys draw.William Williams 1717-91
Tonau [888D]: gwelir: Ti ffynnon bywyd beraidd ddwys |
O gentle Jesus, give me strength, Difficult then shall nothing be, Thou art thyself greater than my burden; It is light, if thou but be on my side, And thy delightful yoke easy be; Immeasurable is the strength of thy arm. I am bidding farewell to everything altogether That nature found in the world; Vanity of vanities they are completely: I am seeing that inheritance is The eternal, pure love of my God, My comfort on thy earth. Grant, Lord, to me to be of thy mind, Thy will be done in everything, May my times be in thy hand: Direct me through the vast wilderness, Stand by my side on my journey, And lead me to yonder paradise.tr. 2019 Richard B Gillion |
|