O am ddechrau blwyddyn newydd

O am ddechrau blwyddyn newydd
  Gyda Duw mewn mawl a chān;
Doed yn helaeth, helaeth arnom
  Ddylanwadau'r Ysbryd Glān:
Bydded hon ymysg blynyddoedd
  Deau law yr uchel Dduw;
Doed yr anadl ar y dyffryn
  Nes bod myrdd o'r meirw'n fyw.

Y mae hiraeth yn ein henaid
  Am ymweliad oddi fry
I gynhesu ein calonnau
  At dy air ac at dy dŷ:
Doed y gwlith a'r glaw ar Seion
  Yn gawodydd iraidd iawn;
Dyro, Arglwydd, o orfoledd
  Iachawdwriaeth gras yn llawn.
Joseph Evans 1831-1904

Tonau:
Blaenwern (W Penfro Rowlands 1860-1937)
Dusseldorf (F Mendelssohn-Bartholdy 1809-47)
Gwynfa (J H Roberts 1848-1924)
Hamburg / Hamburgh (Johann Schop c.1610-64)
Hyfryd Lais (J Owen Jones 1876-)
Tanymarian (E Stephen 1822-85)

O to begin a new year
  With God in praise and song;
Let come widely, widely upon us
  The influences of the Holy Spirit:
Let this be amidst the years
  The right hand of the high God;
Let the breath come on the valley
  Until a myriad from the dead come alive.

There is longing in our souls
  For a visitation from above
To warm our hearts
  To thy word and to thy house:
Let the dew and the rain come on Zion
  In the very invigorating showers;
Give, Lord, from jubilation
  Salvation of grace fully.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~