O am dreiddio i'r adnabyddiaeth

O am dreiddio i'r adnabyddiaeth
  O'r_unig wir a bywiol Dduw
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
  I ddychmygion o bob rhyw;
Credu'r gair
    sy'n dweud amdano
  A'i_natur ynddo amlwg yw,
Yn farwolaeth i bechadur
  Heb gael Iawn o drefniad Duw.

Yn yr adnabyddiaeth yma
  Mae_uchel drem yn dod i lawr,
Dyn yn fach, yn wael, yn ffiaidd,
  Duw'n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
  Gwerthfawr anhepgorol yw,
Yr_enaid euog yn yr olwg
  A'i gogonedda megis Duw.

- - - - -
O am dreiddio i'r adnabyddiaeth O'r unig wir a bywiol Dduw; 'R fath raddau a fyddo'n lladdfa, I ddychmygion o bob rhyw; Credu'r gair sy'n dweud am dano, Am ei natur sanctaidd wiw; Yn farwolaeth i bechadur, Heb gael iawn i'w gadw'n fyw. Mae Duw anfeidrol mewn gogoniant, Er mai Duw y cariad yw, Wrth ei gofio, i mi'n ddychryn, I mi ddolur, ac yn friw; Ond yn mhabell y cyfarfod Mae 'fe yno'n llawn o hêdd; Yn Dduw cymmodlon wedi eistedd, Heb ddim ond heddwch yn ei wêdd. Yno mae fy mwyd a'm diod, Fy noddfa a'm gorphwysfa wiw; Fy meddyginiaeth a fy nhrysor, Twr cadarn anfethedig yw; Yno mae fy holl arfogaeth Yngwyneb fy ngelynion cas, Mae 'mywyd yno yn guddiedig, Pan b'wy' ymladd ar y maes. Cael Duw yn Dad, a thad yn noddfa, Noddfa'n graig, a'r graig yn dŵr, Mwy nis gallaf ei ddymuno Yn dd'ogelwch im' mewn tân a dw'r; O hono Ef mae fy nigonedd, Ac ynddo trwy fyddinoedd af; Hebddo eiddil gwan a dinerth, Cholli'r dydd yn wir a wnaf.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [8787D]:
Chrysostom (hen alaw)
Dolwar (John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77)
Esther (John Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)

gwelir: Mae'r Duw anfeidrol mewn trugaredd

O to penetrate into the knowledge
  Of the only true and living God
To the extent of being a killing-field
  To imaginations of every kind;
Believing the word
    said about him
  And his nature evident in it,
In death for a sinner
  Apart from God's ordained Atonement.

In this knowledge
  The high gaze comes down,
Man small, base, detestable,
  God supreme and great;
Christ in his mediatory offices,
  Indispensably valuable he is,
The guilty soul viewing this
  Will glorify him as God.

- - - - -
Oh to penetrate into the knowledge Of the only true and living God; To the extent which will be a killing-field, To imaginations of every kind; Believing the word which is telling about him, About his holy, worthy nature; Mortality to a sinner, Unless getting a ransom to keep him alive. Infinite God is in glory, Although God is the love; By remembering him to me a horror, To me sadness, and a wound; But in the tent of meeting, He is there full of peace; As reconciling God having sat, With nothing but peace in his countenance. There is my food and my drink, My refuge and my worthy rest; My medicine and my treasure, A strong unfailing tower he is; There is all my weaponry, In the face of my hated enemies, My life is there hidden, Whenever I am fighting on the field. To get God as a father, and a father as a refuge, A refuge as a rock, and the rock as a tower, More I could not wish for, As safety to me in fire and water; From him is my sufficiency, And in him through armies I will go, Without him feeble weak and without strength, Lose the day truy I shall.
tr. 2011,15 Richard B Gillion
O to pierce into the knowledge
tr. H A Hodges 1905-76
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~