O am gael hedd

    O am gael hedd!
Tydi yr Hwn ar fôr
      Tiberias gynt,
Geryddaist gynnwf
      y brawychus wynt, -
Ynghanol dig ystormydd ar bob llaw
Sy'n llanw'm henaid
      âg alaethus fraw,
Llefara air fo'n dwyn
      i'm mynwes hedd -
    Hedd, dwyfol hedd.

    O am gael hedd!
Tydi yr Hwn yn nhref
      Bethania gynt,
A sychaist ddagrau galar
      ar Dy hynt, -
Yngwyneb blin gystuddiau
      yn y byd,
Sy'n gwneud i'm hysbryd ymdristâu o hyd,
Dod imi drwy Dy bresenoldeb hedd -
    Hedd, dwyfol hedd.

    O am gael hedd!
Tydi yr Hwn ar fynydd Calfari,
Oddefaist ing marwolaeth
      drosof fi, -
Yngafael anghrediniaeth calon ddrwg,
Deilyngodd lawer gwaith Dy fythol wg,
Rho imi o'th drugaredd deimlo hedd -
    Hedd, dwyfol hedd.
David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907

Tôn [4.10.10.10.10.10.4]: O am gael Hedd
    (William F Sudds 1843-1920)

   O to get peace!
Thou art he who on the sea
      of Tiberias once,
Didst chide the tumult of
      the terrifying wind, -
Amidst the storm's wrath on every hand
That is flooding my soul
      with grievous terror,
Speak a word that will bring
      peace to my breast -
    Peace, divine peace.

    O to get peace!
Thou art he who in the town
      of Bethany once,
Didst dry the tears of mourning
      on thy course, -
In the face of grievous afflictions
      in the world,
Which are making my spirit sadden still,
Give to me through thy presence peace -
    Peace, divine peace.

    O to get peace!
Thou art he on the mountain of Calvary,
Who didst suffer the throes of death
      for me, -
In the grip of an evil heart's unbelief,
That deserved many a time thy divine frown,
Grant me of thy mercy to feel peace -
    Peace, divine peace.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~