O angeu pa le mae dy golyn?

1,(2).
(Angeu, heb ei Golyn.)
O angeu! pa le mae dy golyn?
  O uffern! ti gollaist y dydd!
Y Baban a anwyd yn Methle'm
  Orchfygodd bob gelyn y sydd;
Ni raid i blant Seion
    ddim ofni
  Myn'd adref dan ganu i'w gwlad -
Eu ffordd sydd yn rhydd tuag yno,
  A hono gysegrwyd ā gwaed!

Mae'r ddaear yn cilio o'm golwg,
  A'r nefoedd yn agor o'm blaen -
Mi glywaf soniarus delynau
  Angylion yn beraidd eu cān;
Seraphiaid, rhowch fenthyg adenydd,
  Mae f'enaid am hedeg i'ch plith!
O angeu! pa le mae dy golyn?
  O uffern! ni lwyddi di byth!
Myn'd adref dan ganu :: Drafaelu i fyny
i'w gwlad :: tua'u gwlad
Eu ffordd sydd :: Mae_eu ffordd hwy
gysegrwyd :: agorwyd :: balmantwyd

John Evans 1791-1809

Tonau [9898D]:
Benwil (Hugh Hughes 1876- )
Bethel (alaw Gymreig)
Capel Newydd (William T Rees 1838-1904)
Crugybar (alaw Gymreig)
Cyfamod (alaw Gymreig/Seisnig)

(Death, without its Sting.)
O Death, where is thy sting?
  O Hell, thou hast lost the day!
The Baby who was born in Bethlehem
  Overcame every enemy there is;
There is no need for Zion's children
    to fear anything
  Going home while singing to their land -
Their way is free towards there,
  And this was consecrated with blood!

The earth is retreating from my view,
  And the heavens are opening before me -
I can hear resounding harps
  Of angels who have a sweet song;
Seraphim, lend ye wings,
  My soul wants to fly to your midst!
O Death, where is thy sting?
  O Hell, thou shalt never succeed!
Going home while singing :: Travailing up
::
::
was consecrated :: was opened :: was paved

tr. 2013,17 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~