O Arglwydd, cyfod, dyrcha'th law A thyr'd o draw yn agos; Ac nac anghofia, pan fo rhaid, Dy weiniaid a'th werinos. Cam ac anwiredd weli di, I farnu dynion anfad; Y tlawd ei obaith wyt, a'i borth, Achymmorth yr amddifad. Ti, Arglwydd, wyt nā neb yn fwy, Wyt Frenin mwy'n dragywydd; A gwneir cyn hir holl lwythau'r llawr I'th orsedd fawr yn uffudd. Ymbiliau'r gweinion ddont i'th glust, Dy air sy'n dyst o hynny; Eu calon ti a'i parottōi, Ac atteb roi i'w gweddi.Cas. o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 [Mesur: MS 8787] |
O Lord, arise, lift up thy hand And come near from afar; And do not forget, when there be need, Thy servants and thy folk. Error and untruth thou dost see, To judge wicked men; The poor, his hope thou art, and his succour, And the help of the bereft. Thou, Lord, art than anyone greater, Art a greater King in eternity; And all the tribes of the earth are to be made before long Submissive to thy great throne. The petitions of the weak come to thy ear, Thy word is a witness of this; Their heart thou wilt prepare, And an answer give to their prayer.tr. 2015 Richard B Gillion |
|