O Arglwydd da dy lwybrau Di

(A'th lwybrau a ddyferant frasder)
O Arglwydd da! dy lwybrau Di,
Ddyferant frasder gras i ni,
  Mae ffyrdd dy gariad yn y byd,
  Yn llawn o drugareddau i gyd.

Rhagluniaeth dyner draetha i ni,
Ogoniant dy haelioni Di,
  Mor werthfawr yw'r daioni ddaw,
  Bob dydd o'th hael, agored law!

Ond yn rhodfeydd anfeidrol ras,
Y ceir y ffrwyth pereidia'i flas,
  Bendithion llawn maddeuol hedd,
  Yw holl rawnsypiau'r
      hyfryd wledd.

O! na folianem enw Duw!
Ein dyled a'n rhagorfraint yw;
  Prif destyn mawl
      y nef ei hun,
  Yw rhyfedd gariad Duw at ddyn.
Robert M Jones (Meigant) 1851-99

Tonau [MH 8888]:
Bro Dawel (Emlyn Davies 1870-1960)
Bryn Onnen (D E Parry Williams 1900-96)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
(Emyn) Luther (Gesangbuch Klug 1535)

(And thy paths drip fatness)
O good Lord, Thy paths,
Drip the fatness of grace to us!
  The ways of thy love in the world, are
  All full of mercies.

Tender providence expounds to us,
The glory of Thy generosity,
  How valuable is the goodness which comes,
  Every day from thy generous, open hand!

But in the avenues of infinite grace,
Are got the fruit of sweetest taste,
  Blessings full of forgiving peace,
  Are all the clusters of the
      delightful feast.

O that we would praise the name of God!
Our duty and our privilege it is;
  The chief theme of the praise
      of heaven itself,
  Is the wonderful love of God to man.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~