O Arglwydd dàl fy enaid tlawd Rhag syrthio'n wawd cyhoeddol: Dod nerth i g'odi bob rhyw awr, Groes Iesu mawr grasusol. Gwna fi yn ffyddlawn yn fy oes, Dan bob rhyw groes a chystudd; Gan dreiddio drwy'r anialwch maith, I'm nefol daith yn ufudd. Myfi'n cael lluniaeth er fy lles, A chynnhes glydwych annedd: Ona bu, mae'n debyg, Faban Mair Mewn gwely gwair yn gorwedd! I'm cadw rhag pob gelyn cry', Dy ofal sy'n feunyddiol; I dalu'n ol dy gariad i'm, Ni feddaf ddim sy' fuddiol. Amddiffyn bywyd 'r wyt bob pryd, I mi mewn byd amserol; Ysgarfydd, gwylio'r corph o'r llaid Y bydd Gwarcheidwaid nefol. Dan bob rhyw drallod īs y rhod I'm enaid dod amynedd; Fel yn dy Winllan, bob rhyw bryd, 'Blodeuwyf hyd y diwedd. Myfi sydd gyfeiliornus iawn, - Mae f'Unduw'n llawn addfwynder: I erfyn nawdd a chymmorth rhad Af at fy Nhad mewn hyder. Dymunaf gymmorth i barhau, Ar hyd fy nyddiau'n addas; Fel y gorphwyswyf, ddydd a ddaw, Ar ddeheulaw'r Messeias.David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 Corph y Gaingc 1810 [Mesur: MS 8787] |
O Lord, keep my poor soul From falling into public scorn: May strength come to raise every kind of hour, The cross of great, gracious Jesus. Make me faithful in my age, Under every kind of cross and affliction; While penetrating through the vast desert, To my heavenly journey obedient. Myself getting provision for my benefit, And a warm, brilliantly-cosy dwelling: There was, likely, the Babe of Mary In a bed of straw lying! To keep me from every strong enemy, Thy care is daily; To pay back thy love to me, I possess nothing which is beneficial. Defending life thou art every time, For me in a temporal world; Perhaps, watching the body from the mire Shall be heavenly Guardians. Under every kind of trouble below the sky For my soul to become patience; As in thy Vineyard, every kind of time, I will blossom until the end. I am very prone to stay, - My One-God is full of gentleness: To petition for protection and free help I will go to my Father confidently. I will ask for help to continue, Along my appropriate days; Thus I shall lie, on the day to come, On the right hand of the Messiah.tr. 2016 Richard B Gillion |
|