O Arglwydd Dduw Jehofa cu

(Duw yn deilwng o gael ei addoli)
O Arglwydd Dduw, Jehofa cu,
Gwir deilwng wyt o'n moliant ni;
  Dy enw mawr a folir fry,
  Yn wresog gan y nefol lu.

Dymunwn ninau, Arglwydd, Iôr,
Gyduno'n awr â'r nefol gôr;
  A chalon bur, trwy lafar lef,
  Addoli'n barchus Frenin nef.

Gwaith hyfryd iawn yw moli Duw,
Gwaith pur a santaidd hefyd yw;
  Dy Ysbryd Glân, O Arglwydd mawr,
  Yn gymorth i ni, dyro'n awr.
Dymunwn :: Dymunem

cyf. Caniadau Bethel (Cas. Evan Edwards) 1840

[Mesur: MH 8888]

(God worthy of being worshipped)
O Lord God, dear Jehovah,
Truly worthy thou art of our praise;
  Thy great name is to be praised above,
  Warmly by the heavenly host.

We also wish, Sovreign Lord,
To join now with the heavenly choir;
  With a pure heart, through a vocal voice,
  Worshipping reverently the King of heaven.

Very delightful work is praising God,
Pure and holy work it is;
  Thy Holy Spirit, O great Lord,
  As a help to us, give now!
::

tr. 2017 Richard B Gillion

 














 

Isaac Watts 1674-1748

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~