O Arglwydd Dduw mawr fy Nghreawdwr

1,(2,3),4,5.
(Amynedd Duw)
O Arglwydd Dduw mawr, fy Nghreawdwr,
  Cynhaliwr a Barnwr y byd!
Tydi sy'n adnabod pob calon,
  A gwel'd y dirgelion i gyd;
Fy nghamwedd i oll wyt yn wybod,
  Am hyny mae'n syndod a sai',
Na bawn yn
    y llyngclyn diwaelod,
  Mewn trallod am bechod a bai.

Yn achub fy mywyd annuwiol,
  Trugaredd anfeidrol y fu;
Mae'n rhyfedd na b'aswn yn gorwedd,
  Y'nghanol y dialedd
      blin du:
Er uwched y gwaeddodd fy mhechod,
  Mae 'mynedd di-ddarfod gan Dduw;
Rwy'n rhwym o roi diolch byth iddo,
  Am le i obeithio, cael byw.

Mor gyfiawn f'ase' i Dduw fy nharo,
  Pwy all'si' feio arno 'fe;
Pe b'aswn mewn cystudd a thrallod,
  Heb byth gael
      gollyngdod o'r lle?
Fy haeddiant ni chefais hyd yma,
  Fe wnaeth y Gorucha' gwir yw,
Drugaredd tu hwynt i mi adrodd,
  I'r Duw a'm harbedodd bw'i fyw!

Gwnaeth fwy o drugaredd na gwared,
  Fy nghorph rhag ei fyned i fedd,
Gallasai fy ngadael i 'm'gledu,
  Nid oeddwn yn haeddu mo'i hedd:
Mi glywaf ei lais ef yn galw
  Hyd heddyw, bechadur, tyr'd di;
Atebaf i alwad fath hwnw,
  Pechadur wrth f'enw wyf fi.

O cymmer di feddiant o'm calon,
  A dysg i mi foddlon iawn fyw,
Rhoi'r gofal a'r gofid
    sy'm blino,
  A'r cyfan yn nwylaw fy Nuw:
Gwnaed ef a fo da yn ei olwg,
  O'i flaen yr wy'n amlwg a noeth,
Da gŵyr beth i wneyd
    i blant dynion,
  Mae'n gyfiawn, yn dirion, a doeth.
Mr Thomas Williams, Rhesycae.
Casgliad o Bum Cant o Hymnau (D Jones) 1810

Tôn [9898D]: Lleyn (<1875)

(The Patience of God)
O great Lord God, my Creator,
  Upholder and Judge of the world!
It is thou who art knowing every heart,
  And seeing all the secrets;
My trespass to all thou art knowing,
  Therefore it is a surprise that I stand,
That I would not be in
    the bottomless swallow-hole,
  In trouble for my sin and fault.

Saving my ungodly life,
  Immeasurable mercy was;
It is amazing that I should not be lying,
  In the midst of grievous,
      black retribution:
Despite how loud shouted my sin,
  There is unfading patience with God;
I am bound to give thanks forever to him,
  For a place to hope, to get to live.

How quickly if God would strike me,
  Who could blame him;
If I were in affliction and trouble,
  Without ever getting
      release from the place?
My dessert I have never got thus far,
  The true Most High 
Mercy beyond my telling,
  To the God who saved me I am to live!

He did more from mercy than deliver,
  My body from going to the grave,
He could leave me to my hardship,
  I would not deserve his peace:
I hear his voice calling
  Still today, sinner, come thou!
I will answer such a call as this,
  A sinner by name am I.

O take thou possession of my heart,
  And teach me very contentedly to live,
To put the care and the worry
    which grieves me,
  And the whole in the hands of my God:
Let him do what is good in his sight,
  Before him I am obvious and naked,
He knows well what to do
    for the children of men,
  He is righteous, tender, and wise.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~