O Arglwydd Dduw pob gras a dawn

O Arglwydd Dduw pob gras a dawn
  Sydd yn d'alluog law;
Ac o'th gyfiawnder perffaith, llawn,
  Pob rhodd ddaionus ddaw.

I Fab Diddanwch rhoddaist Ti
  Ragorol ddoniau'r nef;
Ac yn apostol mawr ei fri
  Â'th Ysbryd gwisgaist ef.

Na ad i ninnau, Arglwydd mawr,
  Fel rhyw amddifaid gwael,
Fod yn ddiffygiol yma'n awr
  O ddoniau d'Ysbryd hael.

O! caniatâ dy ras i ni,
  A'th fywiol nerth bob pryd,
I rodio, trwy dy ddoniau Di,
  I'th foliant yn y byd.
William Morgan (Penfro) 1846-1918

Tôn [MC 8686]: Ballerma (F H Barthélémon 1741-1808)

O Lord of every kind of grace and talent
  Which are in thy powerful hand;
And from thy perfect, full righteousness,
  Every gift of goodness comes.

To the Son of Comfort gavest Thou
  Exceptional gifts of heaven;
And as an apostle of great renown
  With thy Spirit thou didst clothe him.

Nor let us either, great Lord,
  Like some poor orphans,
Be lacking here now
  In the gifts of thy generous Spirit.

O grant thy grace to us,
  And thy lively strength every time,
To walk, through Thy talents,
  To thy praise in the world.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~