O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

1,2,3,(4);  1,4,(2,3).
O Arglwydd Dduw rhagluniaeth,
  Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu,
  Y byd a'r nef dy hun:
Yn wyneb pob rhyw g'ledi,
  Y sydd neu etto ddaw,
Dod gadarn gymhorth i mi,
  I lechu yn dy law.
Grawn-Sypiau Canaan 1805
O am gael ffydd i edrych,
  Gyda'r angelion fry,
I fôr yr iachawdwriaeth,
  Dirgelwch ynddi sy';
Dwy natur mewn un person,
  Yn gyson yno gaed,
Anfeidrol a thrag'wyddol, 
  Yw rhinwedd dwyfol waed.

O f'enaid gwel addasrwydd, 
  Y person dwyfol hwn,
Anturia' iddo'th fywyd,
  A bwrw arno'th bwn:
Mae'n ddyn i gydymdeimlo,
  A'th holl wendidau'i gyd,
Mae'n Dduw i fynu'r orsedd,
  Ar ddiafol, cnawd, a byd.

Er cryfed ydyw'r gwyntoedd
  A chedyrn donnau'r môr,
Doethineb ydyw'r Llywydd,
  A'i enw'n gadarn Iôr;
Er gwaethaf dilyw pechod
  A llygredd o bob rhyw,
Dihangol byth heb soddi
  Am fod yr arch yn Dduw.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [7676D]:
Babel (hen alaw)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Denton's Green (Anton Radiger 1849-1817)
Garthmor (John Thomas Rees 1857-1949)
Llydaw (alaw Lydewig)
Meirionydd (William Lloyd 1786-1852)
Pearsall (St Gall Gesangbuch)
Rhagluniaeth (Caradog Roberts 1878-1935)
Rhyddid (alaw Gymreig)

gwelir:
O am gael ffydd i edrych
Rhyfeddol byth rhyfeddol
Teilwng yw'r Oen a laddwyd

O Lord God of providence,
  And the salvation of man,
It is thou who dost govern,
  The world and heaven thyself:
In the face of every kind of hardship,
  Which is or still to come,
Give strong help to me,
  To hide in thy hand.
 
O to have faith to see
  With the angels above
To the sea of the salvation,
  The mystery which is in it;
Two natures in one Person
  Constantly to be found,
Infinite and eternal,
  Is the merit of the divine blood.

O my soul, see how fitting
  Is this divine Person,
Venture upon him thy life
  And cast upon him thy load;
He is as man to sympathise
  With all thy weakness altogether,
He is as God upon the throne
  Over devil, flesh and world.

Though the storms are so strong
  And the sea's waves billow,
Wisdom is the pilot,
  And his name the strong Master;
In spite of the deluge of sin
  And corruption of every kind,
Safe in the end
  Because the ark is God.
tr. 2009 Richard B Gillion
Eternal God who rulest
  The whole creation wide,
And dost for guilty sinners
  Mercy and grace provide;
In depth of every sorrow
  That is, or time may bring,
Oh, give us help to shelter
  Beneath Thy tender wing.
tr. Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884
O might I gain faith's insight,
  With angel-minds on high,
tr. H A Hodges 1905-76

Tune [7676D]: Denton's Green (Anton Radiger 1849-1817)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~