O! Arglwydd Dduw, 'r Hwn bïau'r waith, Arddel dy faith wirionedd, Fel byddo i bechod, o bob rhyw Gael marwol friw o'r diwedd. Dy weinidogion gwisg â nerth, Yn brydferth o'r uchelder; A doed dy Ysbryd Sanctaidd Di I argyhoeddi llawer. Amlyga Di, O! Arglwydd Iôr, O fôr i fôr, dy fawredd; A dangos i holl ddynol-ryw Mor union yw'r gwirionedd. Llefara wrthym air mewn pryd, Dod ysbryd in i'th garu; Datguddia inni'r oedfa hon Ogoniant person Iesu. O gwna Dy eiriau megis tân Trwy'r Ysbryd Glân a'i ddoniau; Dy air fel gordd yn awr a fo Mewn nerth yn dryllio creigiau. Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, dangos rym Dy nerthol lym wirionedd, Rho rasol fendith yma'n awr I fwrw i lawr anwiredd. Perffeithia, Iôr, dy nerth sydd fawr Yn ŵyneb dirfawr wendid, Rho i'r newynog, tlawd, a chaeth, Ysbrydol faeth a rhyddid. Disgwyliaf wrthyt uwch law neb, Na thro Dy wyneb ymaith; Bydd imi'n Dduw, yn Dad, yn Frawd, Yn dirion iachawdwriaeth.1,3: Edward Jones 1761-1836 2,5: John Hughes 1775-1854 4 : John Williams (Siôn Singer) c.1750-1807 6,7: Thomas Jones 1756-1820 8 : John Hughes 1775-1854
Tonau [MS 8787]:
gwelir: Corona'n hoedfa ar hyn o bryd O Arglwydd Dduw bydd ini'n borth O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr Rho ddawn a goleu Arglwydd Iôr Tyr'd Ysbryd Sanctaidd dangos rym Wel dyro eto gymhorth rhwydd |
O Lord God, whose is the work, Own thy vast truth, So that sin, of every kind, may Get a mortal wound eventually. Clothe thy servants with strength, Beautifully from the height; And may Thy Holy Spirit To convince many. Reveal, O Sovereign Lord, From sea to sea, thy greatness; And show to the whole of humankind How straight is the truth. Speak to us a word in season, Come, Spirit, for us to love thee; Reveal to us during this service The glory of the person of Jesus. O make Thy words like fire Through the Holy Spirit and his gifts; Thy word be like a hammer now In strength smashing rocks. Come, Holy Spirit, show the force Of thy strong, sharp truth, Give a gracious blessing here now To cast down falsehood. Perfect, Lord, thy strength which is great In the face of huge weakness, Give the starving, poor, and captive, Spiritual nourishment and freedom. I wait for thee above any hand, Do not turn Thy face away; Be to me God, a Father, a Brother, A tender salvation.tr. 2009,10 Richard B Gillion |
|