O Arglwydd dena'm serch a'm bryd

(Cyfeillion Ymadawedig)
1a,2,3a,(4,5);  1a,2,3b,4;  1b,2,3a,5.
O Arglwydd, dena'm
    serch a'm bryd,
Ar y gwrthddrychau sy
     uwch y byd;
  Trysorau hyfryd
      can-mil gwell,
  Cuddiedig draw ar fryniau pell.

[O Arglwydd, dena'm
     serch a'm bryd,
 Oddiar wrthddrychau gwael y byd;
   At drysor hyfryd
       can-mil gwell,
   A drefnwyd draw ar fryniau pell.]

Draw mae ein Iesu mawr a'n Duw,
A brodyr fyrddiwn ini'n byw;
  Mae yno rai'n clodfori o hyd,
  Fu'n teithio
      gyda ni'n y byd.

Dringasant hwy i ben eu taith,
Gorphen'sant ar eu llafur waith;
  Gwynfyd a f'ai yno byth,
  Yn moli'n beraidd yn eu plith.

[Dringasant hwy i ben eu taith,
 'N ol gorphen ar eu llafur waith;
   Gwynfyd na f'a'wn i yn eu plith,
   Yn moli'n beraidd yno byth.]

Wel, cyn bo hir ni ddown ynghyd,
O eithaf pedwar cẁr y byd;
  O'r gogledd, de, a'r dwyrain bell,
  I gael mwynhau cymdeithas well.

Yno y derfydd poen a gwae,
A holl gystuddiau'r duwiol rai;
  Caiff yr holl etholedig ryw
  Wyneb yn wyneb weled Duw.

             - - - - -

O Arglwydd, dena'm
    serch a'm bryd
Ar y gwrthddrychau uwch y byd;
  Trysorau hyfryd,
      can mil gwell,
  Cuddiedig draw ar fryniau pell.

O am gael golwyg hoff o'r wlad,
A gorsedd ein tragwyddol Dad;
  Lle'r eiste'n Prynwr mawr ei fri,
  Mewn corph cyffelyb i'n cyrph ni.

Tyr'd, nefol G'lomen, oddi fry,
A ch'od ni ar d'adenydd cu;
  Esgyn, a dwg ni fynu'n grwn
  Uwchlaw holl bethau'r bywyd hwn.

Tyr'd â'r awelon hyny lawr
Sy'n deffro'r arg'oeddiadau mawr;
  A deued y deheuwynt clyd,
  Sy'n codi'm henaid uwch y byd.

             - - - - -
             1,2,(3),4.

O Arglwydd, dena'm
    serch a'm bryd
Ar y gwrthddrychau sy
     uwch y byd;
  Trysorau hyfryd
      can-mil gwell,
  Cuddiedig draw ar fryniau pell.

O nertha f'enaid gwan ei ffydd,
Roi 'ofal arnat ti bob dydd;
  Heb flino 'nghylch amseroedd draw,
  Y rhai o bosibl byth ni ddaw.

Rho i mi lechu'n dawel glyd,
Tu hwnt i sŵn fy meiau i gyd;
  Uwch twrf a
      themtasiynau'r llawr,
  Tan gysgod dy
      gyfiawnder mawr.

A boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
Ddirgelion dystaw nefol fyd;
  A'm hunig bleser ddydd a nos
  Yn nyfnion wirioneddau 'r groes.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Beza (<1869)
Bryn-dyoddef (D Emlyn Evans 1843-1913)
Gregor(y) (Christliche Gesangbüchlein 1568)
Hursley (Peter Ritter 1760-1846)
Melancthon (Hans Kugelmann c.1495-1542)
Portugal (Thomas Thorley)
San Martini (G B Martini 1706-84)
Tegid (<1869)
Whitburn (Henry Baker 1835-1910)

gwelir:
  Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd
  O nertha f'enaid gwan ei ffydd
  O tyred y gogleddwynt
  Pererin wyf tua Salem bur
  Tyr'd nefol G'lomen oddi fry

(Departed Friends)
 
O Lord, attract my
    affection and my attention,
To the objects which are
    above the world;
  Delightful treasures a
      hundred thousand times better,
  Hidden yonder on distant hills.

[O Lord attract my
     affection and my attention,
 From the base objects of the world;
   To delightful treasure a
       hundred thousand times better,
   Ordained yonder on distant hills.]

Yonder are our great Jesus and our God,
And myriads of brethren to us living;
  There some are always extolling,
  Who were travelling
      with us in the world.

They had climbed to their journey's end,
They rest from their work's labour;
  Blessed would be being there forever,
  Praising sweetly amongst them.

[They had climbed to their journey's end,
 After finishing their work's labour;
   How blessed I would be amongst them,
   Praising sweetly there forever.]

See, before long we shall come together,
From the four extreme corners of the world;
  From the north, south, and the far east,
  To get to enjoy a better fellowship.

There pain and woe shall end,
And all the afflictions of the godly ones,
  All the chosen kind shall get
  Face to face to see God.

                 - - - - -

O Lord, attract my
    affection and my mind
To the objects above the world;
  Delightful treasures,
      a hundred thousand times better,
  Hidden yonder on distant hills.

O to get a lovely view of the land,
And the throne of our eternal Father;
  Where sits our Redeemer of great renown,
  In a body similar to our bodies.

Come, heavenly Dove, from above,
And raise us on dear wings;
  Ascend, and bring us up roundly
  Above all the things of this life.

Bring those breezes down
Which awaken the great convictions;
  And let the cosy south wind come
  Which raises my soul above the world.

                 - - - - -
 

O Lord, attract my
    affection and my mind
To the objects that are
    above the world;
  Delightful treasures,
      a hundred thousand times better,
  Hidden yonder on distant hills.

O strengthen the faith of my weak soul,
To put its care upon thee every day;
  Without grieving about times to come,
  Those that possibly shall never come.

Grant me to lurk quietly securely,
Beyond the sound of all my faults;
  Above the tumult and
      temptations of the earth,
  Under the shadow of thy
      great righteousness.

And let my ears always listen
To the quiet mysteries of a heavenly world;
  And my only pleasure day and night
  In the deep truths of the cross.
tr. 2016,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~