O Arglwydd! dyrcha arnom, Tra byddom yn dy d&385;, O lewyrchiadau grasol Dy siriol wyneb cu; Tra byddom yma'n aros, O Dduw! bydd yn ein plith, A gwlawia ar ein hoedfa, I lawr o'th nefol wlith. Rho gymorth i dy garu, A'th barchu, Arglwydd mawr! A byw yn ol dy ddeddfau Tra'n teithio ar y llawr; Rho nerth i ni ymorphwys, O hyd ar drefn dy ras, A gwledda ar y manna, Sylweddol, pâr ei flas. Mae'n rhaid i'r anian newydd A blanwyd gan y Tad I gael ei maeth a'i chynnydd O ffrwythau'r Ganaan wlad; Nid oes dim ymborth iddi Yn holl dresorau'r llawr; Mae'i thynfa ar i fyny - O'r nefoedd daeth i lawr.1-2: D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903 3 : An. (Casgliad o Hymnau [Calfinaidd] 1859)
Tonau [7676D]: gwelir: Mae'n rhaid i'r anian newydd |
O Lord, raise upon us, While we are in thy house, From gracious gleamings Thy dear cheerful face! While we are waiting here, O God, be in our midst, And rain on our service, Down from thy heavenly dew. Give support to love thee, And revere thee, great Lord! And to live according to thy laws While we travel on earth; Give strength for us to rest, Always on the provision of thy grace, And to feast on the substantial Manna, of sweet taste. There is need for the new soul Which was planted by my God To get its nutriment and its growth From the fruits of the land of Canaan; There is no grazing for it In all the treasures of the earth; Its attraction is up - From the heavens it came down.tr. 2014 Richard B Gillion |
|