O Arglwydd gwna ni oll yn un, Plyg ein 'wyllysiau câs; Yn ol dy feddwl di dy hun, Trwy rîn dy nefol ras. Darostwng di bob syniad cnawd, Doed cariad yn ei le; Dysg i bob un garu ei frawd, A'r cariad sy'n y ne'. Felly y byddwn bawb dan nôd Ein priod hardd a'n pen; Ac yna y gwel y byd ein bod Yn eiddo'r nefoedd wen.Diferion y Cyssegr 1802 - - - - - O Arglwydd dwg ni ar dy lun, Trwy rîn dy gariad gwiw; A chadw'n hysbryd oll yn un Tra byddom yma'n byw. Darostwng di syniadau'r cnawd, Doed cariad yn ei le; A dysg bob un i garu'i frawd, A'r cariad sy'n y ne'. Fel hyn y byddwn bawb dan nôd Ein Priod mawr a'n Pen; Ac felly gwel y byd ein bod Yn eiddo'r nefoedd wen.Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [MC 8686]: Burford (Psalmody 1699) |
O Lord make us all one, Bend our detestable wills; According to thine own thought, Through the merit of thy heavenly grace. Subdue thou every idea of flesh, Let love come in its place; Teach every one to love his brother, With the love that is in heaven. Thus shall we all be under the mark Of our spouse and our head; And then the world shall see that we are Belonging to bright heaven. - - - - - O Lord train us in accordance with thy image, Through the merit of my worthy love; And keep our spirit all one While ever we are here living. Subdue thou the ideas of the flesh, Let love come in its place; And teach every one to love his brother, With the love that is in heaven. Thus shall we all be under the mark Of our great Spouse and our Head; And thus the world shall see that we are Belonging to bright heaven.tr. 2021 Richard B Gillion |
|