O bob trysorau tan y nef, Y pennaf yw ei heddwch ef, Ei fath ni fedd yr India fawr: Yn unig hwn a'm ceidw'n hy, Yn erbyn g'lynion mwya cry', Na chaffont byth mo mhen i lawr. O! gariad uchaf fu erioed, Fry oddi ar, neu îs y rhod, Blaen brawf o'r gwleddoedd nefol pur: Ni cheisiaf byth, tra dan y nef, Ond teimlo'i awel hyfryd ef, Digonir fi yn y nefol dir. O! dowch yn mlaen, yn ddinacâd, Mi glywaf swn caniadau'r wlad - Peth o'r gorfoledd, peth o'r clod: Difyrwch sydd yn nghwmni Duw Nad oes o dan y sêr yn byw A wybu am ei fath erioed.1: ? Morgan Rhys 1716-79 William Williams 1717-91
Tonau [888.888]: gwelir: Gwnawd concwest ar Galfaria fryn |
Of every treasure under heaven, The chief is his peace, Its kind great India does not possess: In this alone am I kept confident, Against the strongest enemies, May they never bring my head down. O highest ever love! From up above, or below the sky, A foretaste of the pure, heavenly feasts: I shall not seek, while ever under heaven, But to feel his delightful breeze, I shall be satisfied in the heavenly land. O come on, inexhaustibly! I hear the sound of the songs of the land - Something of the glory, something of the praise: Enjoyable it is in the company of God There is nothing living under the stars That has ever known its like.tr. 2016 Richard B Gillion |
|