O chwiliwn yr Ysgrythyr lân, Am destun wna dragwyddol gân; Mae ynddi drysor canmil gwell Na holl fwngloddiau'r India bell. Mae'n son am drysor marwol glwy', Na fedd y nefoedd wen ei fwy; Caniadau'r saint fydd byth yn un Am gyfoeth iachawdwriaeth dyn. Mae'n sôn am ffynnon i lanhau, A'r gwir oludoedd sy'n parhau, Cyfiawnder, a maddeuant llawn I'r euog, trwy anfeidrol Iawn. O chwiliwn gyrau'r maes i gyd, Gan gloddio am y trysor drud; Mae'n gyfoeth heb ei fath yn awr, A'i werth â'n fwy trwy'r eilfyd mawr. ... nefoedd wen ei fwy :: ... nefoedd drysor mwy [Mesur: MH 8888] |
Oh let us search the holy Scripture, For a topic that will make an eternal song; There is in it a treasure a hundred thousandfold better Than all the mines of distant India. It tells of the treasure of a mortal wound, Than which blessed heaven possesses nothing greater; The songs of the saints will be forever the same About the wealth of man's salvation. It tell of a fount to cleanse, And the true riches that are enduring, Righteousness, and full forgiveness For the guilty, through infinite Atonement. Oh let us search all the corners of the field, By digging for the valuable treasure; It is wealth without its like now, And its worth becomes greater through the great second world. blessed heaven ... nothing greater :: heaven ... no greater treasure tr. 2013,23 Richard B Gillion |
|