O Dad! yn enw'r un Sy 'rioed yn rhyngu'th fodd, Dy briod Fab dy hun, 'Rwy'n awr yn gofyn rhodd: Dod ysbryd gweddi im', O Dad! Dysgwyliaf am d'addewid râd. Dod gysur im', neu baid, Iachâ neu gwna fi'n friw; Ymwêl, neu ymgudd, os rhaid, Fel mỳnot ti, fy Nuw: Boed ypryd gweddi ynwy'n nglŷn, I ddysgwyl d'amser di dy hun. Yn mhob amgylchiad cul, Wrth fyn'd trwy'r anial maith, Mewn gorthrymderau fil, O cynnal fi ar fy nhaith: Hyd angeu ddydd, O Arglwydd, gâd Im' nerth i lefain, Abba Dad. Dysgwyliaf am :: Ymbwysaf ar O cynnal fi :: O dal fi gâd // Im' nerth i lefain :: gâd // Im' allu llefain Tôn [666688]: Bryniau Canaan (alaw Gymreig) |
Father! in the name of the one Who was always pleasing thee, Thy very own Son, I'm now asking for a gift: Give a spirit of prayer to me, O Father! I wait for thy gracious promise. Give comfort to me, or not, Heal or make me wounded; Visit, or hide, if necessary, As thou dost insist, my God: May a spirit of prayer be fast in me, To await thine own time. In all straitened circumstances, While going through the vast desert, In a thousand oppressions, O support me on my journey: Until the day of death, O Lord, leave Me strength to cry, Abba Dad. I wait for :: I lean on O support me :: O hold me leave // Me strength to cry :: let // Me be able to cry tr. 2020 Richard B Gillion |
|