O danfon dy weision f'o'n gryfion mewn grâs

(Dymuniad am i'r gair gael ei ddanfon
i bawb gydâ llwyddiant mawr - Rhan II)
O danfon dy weision
    f'o'n gryfion mewn grâs,
I ddangos i ddynion
    eu ceimion ffyrdd câs;
  Ac hefyd i ddangos
      dy achos, a'u dwyn 
  Tan iau'r Person hwnw
      fu marw er eu mwyn. 

Prysura ddyfodiad
    dy fwriad di-fai,
I ddwyn yr Iuddewon
    yn rhyddion bob rhai,
  O dan annghrediniaeth,
      a'i driniaeth ddi-drefn,
  I gredu'r Efengyl,
      drych anwyl, drachefn.

O danfon, a llwydda,
    hysbysa drwy'r byd,
Efengyl y deyrnas,
    o'i gwmpas i gyd:
  Aed teyrnas yr Iesu
    i fynu'n un fawr,
  A theyrnas y diafol
    gelynol i lawr.

O bydded i'r Angel
    mawr, uchel, ymroi,
I rwymo'r hen ddiafol
    gelynol, a'i gloi
  Mewn pydew diwaelod,
      man hynod yn hîr,
  Yn ol dy addewid
      ddi-wendid sydd wir.

Na fydded i Satan
    gael man yma mwy,
I rwymo plant dynion
    tan gloeon, neu glwy';
  O brysied y munud
      i'w symud o'i swydd:
  Mae'n attal bob amser
      in' lawer o lwydd.

Gobeithio mai arwydd
    y sydd yn nesau,
Y teflir y diafol
    uffernol i'w ffau,
  Yw danfon cenhadon,
      a Biblau mor bell,
  A miloedd yn dyfod
      i'w wybod yn well.
Edward Jones 1761-1836
Hymnau &c. ar Amryw Destynau ... (E Jones) 1810

[Mesur: 11.11.11.11]

gwelir:
  Rhan I -
O danfon i'r meirw yn loyw dy lêf

(Wish for the word to be sent
to all with great success - Part 2)
O send thy servants
    that be strong in grace,
To show to men
    their myriad of detestable ways;
  And also to show
      thy cause, and bring them
  Under the yoke of that Person
      who died for their sake.

Hasten the coming
    of thy faultless intention,
To bring the Jews
    free every one,
  From under unbelief,
      and his unruly treatment,
  To believe the Gospel,
      a beloved sight, again.

O send, and prosper,
    announce throughout the world,
The gospel of the kingdom,
    all around it:
  Let the kingdom of Jesus go
      up as a great one,
  And the kingdom of the hostile
      devil down.

O may the great,
    high Angel, commit
To bind the old hostile
    devil, and lock him
  In a bottomless pit,
      a place notably long,
  According to thy unweakening
      promise that is true.

May Satan not
    get a place here any more,
To bind the children of men
    under locks, or wound;
  O let the minute hurry
      to remove him from his office:
  He is obstructing all the time
      much of our success.

We hope that a sign
    that is drawing near,
That the infernal devil
    is to be cast to his fate,
  Is the sending of emissaries,
      and Bibles so far,
  And thousands coming
      to know it better.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~