O Dduw a Llywydd oesau'r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, Ein ffordd a dreiglwn arnat ti: Y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd Ddigon ar gyfer eisiau'r byd; Drwy'r niwl a'r haul, drwy'r tân a'r don, Bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes Wneud inni gwyno dan y groes; Er popeth ddaw, o ddydd i ddydd Y flwyddyn hon cryfha ein ffydd. Rho fwy o gariad at dy waith, Rho fwy o sêl bob cam o'r daith; Ar bethau'r tŷ rho fwy o flas, Y flwyddyn hon rho ras am ras.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Telyn y Cristion 1902
Tôn [MH 8888]: |
O God and Governor of the ages of the earth below, Resident of a great eternity, Our way we travel towards thee: This year, O lead us. In thy blessing is every time Sufficient for the needs of the world; Through the cloud and the sun, through the fire and the wave, Bless us this year. Let not, O God, the turns of the age Make us complain under the cross; Despite everything that comes, from day to day This year, strengthen our faith. Give more love toward thy work, Give more zeal every step of the journey; On the things of the house give more taste, This year give grace upon grace.tr. 2024 Richard B Gillion |
|