O Dduw hollalluog, Tŵr enwog wyt ti, Fy Nghraig a fy Nghrewr, fy Mhrynwr a'm Mri; Dy Ysbryd Glān mirain f'o i'm harwain o hyd A'm tynfa feunyddiol f'o i ganmil gwell byd. Mewn byd drwg trallodus, helbulus 'rwy'n byw, Er hyn ymwrolaf, ymnerthaf yn Nuw; Er gwaetha' ngelynion anhylon o hyd Mae tynfa fy enaid i ganmil gwell byd. Rho im' gael adnabod gwir gymod trwy'r gwaed, A chorff y farwolaeth tra helaeth dan draed, Fel byddwyf heb oedi yn profi bob pryd, Fod tynfa fy enaid i ganmil gwell byd. Yn ing afon angau, Duw mau, d'od i mi - Gael cyfaill i'm cofio, i'm llywio trwy'r lli: A myrdd o'th brydferthion angylion yn nghyd, I'm dwyn i'r tragwyddol anfarwol nef fyd.David Griffith (Clwydfardd) 1800-94 Llyfr Emynau (Wesleyaidd) 1837 [Mesur: 11.11.11.11] |
O God almighty, a famous Tower art thou, My Rock and my Creator, my Redeemer and my Glory; Thy noble Holy Spirit be leading me always And my daily attraction be to a world a hundred thousand times better. In an evil, troublesome, tempestuous I am living, Despite this I shall persevere, I shall take strength in God; Despite my dismaying enemies still The attraction of my soul is to a world a hundred thousand times better. Grant me to get to know true reconciliation through the blood, And the body of death so abundantly under foot, That I may without delay experience every time, That the attraction of my soul be to a world a hundred thousand times better. In the anguish of the river of death, my God, come to me - To get a friend to remember me, to steer me through the flood: And a myriad of beautiful angels together, To lead me to the eternal, immortal, heavenly world.tr. 2024 Richard B Gillion |
|