O Dduw yr holl genhedloedd

O Dduw yr holl genhedloedd,
  A Chyfaill gwledydd byd,
Rho fendith bryniau'r nefoedd
  I Gymru fechan glyd;
I'w phlant ymhell ac agos
  Doed golau gwell yn awr;
Ar ôl tymhestlog hirnos
  Doed tawel hafaidd wawr.
 
Ar fryniau Galilea
  Bu sôn am Deyrnas nef,
Ar fryniau annwyl Gwalia
  Cod heddiw, Grist, dy lef:
Mae llonder yn dy eiriau,
  A chariad yn dy lais,
Mae heddwch ar dy lwybrau,
  Heb lid
      na brad na thrais.
 
Dysg inni fyw i'th barchu,
  A gwna'n calonnau'n un,
Dros Iesu a thros Gymru,
  I weithio yn gytûn:
A cherdded ysbryd hawddgar
  Hyd wledydd pella'r byd,
Nes dwyn holl bobloedd daear
  Yn frodyr o un fryd.
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Trydydd Llyfr Anrheg 1944 - Emynau'n Gwlad

[Mesur: 7676D]

O God of all the nations,
  And Friend of the lands of the worlds,
Give the blessing of the hills of heaven
  To snug little Wales;
To her children far and near
  Let a better light come now;
After the long tempestuous night
  Let a quiet summery dawn come.

On the hills of Galilee
  There was mention of heaven's Kingdom,
On the hills of dear Gwalia
  Raise, today, Christ thy call:
There is cheer in thy words,
  And love in thy voice,
There is peace on thy paths,
  With neither anger,
      nor treachery nor violence.

Teach us to live to revere thee,
  And make our hearts one,
For Jesus and for Wales,
  To work in agreement:
And let a beautiful spirit walk
  As far as the world's furthest lands,
Until bringing all the peoples of earth
  As brothers of one intent.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~