O! ddwyfol ras yr Iesu At wael golledig deulu, Anfeidrol foroedd o fwynhad Yn gariad heb ei haeddu; Mae cyfoeth mawr Ei galon O fewn Ei addewidion, A throdd hyfrydwch Nef i gyd Yn fywyd i farwolion. Addawodd drwy Ei haeddiant Gysuron a gogoniant, Ac o'i fwriadau Ef Ei Hun Ni throdd yr un yn fethiant; Cyflawnder Ei fendithion Yw manna'r pererinion, Ac mae'r Diddanydd yn parhau Ar lwybrau'r addewidion. Pan yw y nef yn duo, A'r stormydd yn fy nghuro, Af i Galfaria ar Ei ôl, Mae hedd tragwyddol yno; Mae barnau y dialydd Yn ddistaw ac yn llonydd, A'r addewidion ar y Bryn Yn disgyn yn gawodydd. Mi garaf fy Anwylyd, Efe yw nerth fy mywyd, A diogel yn Ei gysgod mwy Nid ofnaf glwy nac afyd; O gyrraedd fy ngelynion Yn sŵn Ei addewidion Ar Bren y Bywyd gwnaf fy nyth Am byth uwchben fy nigon.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 7787D] |
O the divine grace of Jesus Toward the base lost family! Immeasurable seas of enjoyment As love without its deserving; It is the great wealth of his heart Within his promises, That turned all the delight of heaven Into life for mortals. He promised through his merit Comforts and glory, And from his own intentions Not one turned to failure; The righteousness of his blessings Is the manna of the pilgrims, And the Comforter is continuing On the paths of the promises. When heaven is blackening, And the storms beating me, I shall go to Calvary after him, There is eternal peace there; The judgments of the avenger are Quiet and still, And the promises on the hill Descending as showers. I love my Beloved, His is the strength of my life, And safe in his shadow evermore I shall not fear wound or adversity; From the reach of my enemies In the sound of his promises On the tree of life I shall make my nest Forever above my sufficiency.tr. 2021 Richard B Gillion |
|