O deffro f'enaid c'od dy ben
O deffro'm henaid c'od dy ben

(Yr hwn sy'n rhoddi i ni fuddugoliaeth)
O deffro f'enaid c'od dy ben,
  O'r ddaeren i fynu;
Nesâu mae'th iachawdwriaeth wiw,
  A hyfryd yw ei henwi;
Mae fy Mhrïod nefol hynod,
'N awr yn bwrw mod i'n barod,
  Paid ag oedi c'od i fynu,
  Trwsia'r lamp, rhag ei ddifoddi,
Ti gei fyn'd i'r nefoedd wledd,
  Tu draw i'r bedd i ganu.

Wrth gael fy nghuro dan bob ton,
  'Rwy yma bron diffygio;
Gelynion nerthol sy' bob cam,
  Yn ddiwyd am fy nhemtio:
Ond derfydd amser
    eich gorthrymder.
Daw f'enaid bach
    yn iach ar fyrder,
  Câf lawn ollyngdodd o bob pechod,
  Mae 'nghalon eisoes gydâ Mhrïod;
O croesaw angeu moes dy law,
  Fe ddarfu braw dy ddyrnod.

O cadarnha fy egwan ffydd,
  Tra paro dydd fy mywyd;
Fel gallwy 'mhob cysuddiau ddaw,
  I wel'd tu draw i adfyd:
Canu'n hyfryd yn fy ngofid,
Treulio'm hoes mewn croes a hawddfyd,
  Ymddifyru yn yr Iesu,
  Bloeddio concwest cyn ei feddu,
Edrych yr ochr draw i'r bedd,
  I welssss'd y wlêdd fydd imi.

              - - - - -
(Ymbarotoad)
O deffro'm henaid c'od dy ben,
  O'r ddaeren i fynu;
Neshau mae'm iechydwriaeth wiw,
  A hyfryd yw ei henwi;
Mae fy Mhriod nefol hynod,
'Nawr yn bwrw'm bod i'n barod,
  Paid ag oedi c'od i fynu,
  Trwsia'r lamp y mae'n ddifoddi,
Mi a gaf fyn'd i'r nefoedd wledd,
  Tu draw i'r bedd i ganu.

Wrth gael fy nghuro dan bob tonn,
  'Rw'i yma mron diffygio,
Gelynion nerthol sy' bob cam,
  Yn ddiwyd am fy nhemtio;
Prin amddiffyn rhwydau'r gelyn,
Sydd yn dewon ym yn diwin,
  Ac yn barod i fy ngorfod,
  On' b'ai iechyd sydd oddi uchod,
Dere fy Nuw, c'od fy yn glau,
  I'r man y mae fy Mhriod.

O cadarnha fy egwan ffydd,
  Tra paro dydd fy siwrnai,
Fel gallw'i yn mhob cystuddiau ddaw,
  I wel'd tu draw i'r bryniau:
Canu yn hyfryd yn fy ngofid,
Treulio'm hoes mewn croes a hawddfyd,
  Tan ddifyrru yn yr Iesu,
  Bloeddio concwest cyn ei feddu,
Edrych i'r ochor draw i'r bedd,
  Am dan yr hedd sydd imi.
William Williams 1717-91

Tôn [87878787]: Nutmeg and Ginger (<1811)

(He who gives to us victory)
O awake my soul, raise thy head,
  Up from the earth;
Approaching is thy worthy salvation,
  And delightful it is to name it;
My notable, heavenly Spouse, is
Now directing that I be ready,
  Do not delay, rise up,
  Trim the lamp, lest it go out,
Thou shalt get to go to the heavenly feast.
  Beyond the grave to sing.

While getting beating under every wave,
  I am here almost failing;
Strong enemies are at every step,
  Determinedly tempting me:
But the time of thy
    oppression shall pass,
My little sould shall
    shortly come whole,
  I shall get release from every sin,
  My heart is already with my Spouse;
O welcome death, give thy hand,
  Fear of thy blow passes.

O strengthen my weak faith,
  While the day of my life continues;
That I may in all coming afflictions,
  See beyond the adversity:
Singing delightfully in my grief,
Spending my age in cross or ease,
  Delighting in  Jesus,
  Shouting conquest before possessing it,
Looking beyond the grave,
  To see the feast that shall be for me.

                 - - - - -
(Preparedness)
O awake my soul, raise thy head,
  Up from the earth;
Approaching is my worthy salvation,
  And delightful it is to name it;
My notable, heavenly Spouse is
Now directing that I be ready,
  Do not delay, rise up,
  Trim the lamp, it is going out,
I shall get to go to the heavenly feast,
  Beyond the grave to sing.

While getting beaten under every wave,
  I am here almost failing,
Strong enemies are at every step,
  Determinedly tempting me;
Scarcely escaping the enemy's nets,
Which here are thick and coarse,
  And ready to compel me,
  Were there no salvation from above,
Come, my God, raise me quickly,
  To the place where my Spouse is.

O strengthen my weak faith,
  While the day of my journey continues,
That I may in all coming afflictions,
  See beyond the hills:
Sing delightfully in my grief,
Spend my age in cross or ease,
  While delighting in Jesus,
  Shouting conquest before possessing it,
Looking beyond the grave,
  For the peace that is for me.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~