O dewch ymla'n i'r dyfroedd glan

(Ar Esai LV. 1.)
O dewch ymla'n i'r dyfroedd glan,
  'Rhwn nid oes arian gantho;
Dewch, prynych win a llaeth diflin,
  Bwytewch bob mîn a'i mynno.

Mae'r gwa'odd ar g'oedd,
    a'r rhai'n yn rhodd,
  I bawb a'u bodd a'i ceisio;
I bobol byd o's dont mewn pryd,
  Cânt ddw'r y bywyd gantho.

Mae'r dyfroedd hyn
    er dechreu'n wan,
  Ar gynnydd anrhaethawy;
Yn afon Duw hwy ddont mewn pryd,
  I bawb o'r byd credadwy.

A yfo'n hyf o'r afon hon,
  A phêr ddanteithion hyfryd;
Caiff fwyta o'r wledd medd, Amen.
  Hoff ffrwythau Pren y bywyd.

O enaid ffyddlon! 'rhwn wyt dlawd,
  Mae'th hunaf frawd dy hunan,
I'th dirion wa'wdd
    o'i nawdd trwy nerth,
  I'r wledd heb werth ac arian.

Na fydd yn drist fe ddwg dy draul,
  Tarian a haul ei bobol;
O wreiddyn y Winwydden hon,
  Mae nof planhigion nefol.

Gan hynny feibion, dwyswrandewch,
  I'r dyfroedd dewch, sy'n llesiol;
A rhinwedd ynthynt i'ch iachau,
  O'ch mawrion friwiau marwol.
Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol (Harri Sion) 1773

[Mesur: MS 8787]

(On Isaiah 55:1)
O come ye forward to the clean waters,
  Whoever has no money;
Come ye, buy wine and milk inexhaustible,
  Eat everything that you want.

The invitation is announced,
    and these as a gift,
  To all who are pleased to seek it;
For the world's people who come in time,
  They may drink the water of life from it.

These waters are,
    although beginning weakly,
  About to increase beyond expression;
The river of God they will become in time,
  To all or the believing world.

Whoever drinks boldly from this river,
  And delightful sweet delicacies;
Shall get to eat from the feast, say Amen.
  The lovely fruits of the Tree of life.

O faithful soul, thou who art poor,
  Thine own eldest brother is,
Tenderly invites thee
    by his patronage through strength,
  To the feast without cost or money.

Be thou not sad he will bear thy cost,
  The shield and sun of his people;
From the root of this Vine
  There is the sap of heavenly plants.

Therefore, ye sons, listen intently,
  To the waters that are beneficial, come;
With merit in them to heal ye,
  From you great mortal bruises.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~