O dyrchafa f'enaid egwan
O derchafa/dyrchafa'm henaid egwan

(Hiraeth am gymdeithas gysson â Duw)
1,2,(3).
O! dyrchafa'm henaid egwan,
  Y mae bellach yn hwyrhau;
Hir yw'r amser i och'neidio,
  Gwna i mi o'r diwedd lawenhau;
Moroedd mawr, a bryniau lawer,
  Pellder annioddefol sy,
Ac anialwch maith digymmhar,
  Rhyngof a'm Hanwylyd cu.

O! na bai rhyw ddyfais hyfryd
  Dan yr wybr las i gyd,
Allai gadw'm henaid egwan
  Yn dy gwmni di o hyd;
Byth ni phrisiwn, doed a ddelo,
  Beth ddigwyddai îs y nen;
Ar dy fynwes deg, berffeithlan,
  Byth y pwyswn i fy mhen.

O! foreuddydd y briodas,
  Gwynfyd wela' i'r ddedwydd awr -
Gwel'd wynebpryd y Priodfab,
  Clywed llais y delyn fawr;
Awn dan ganu dros y moroedd
  Meithion tua'r hyfryd wlad,
Ac anghofiwn hen gariadau,
  Gwâg bleserau
      tŷ fy nhad.

            - - - - -
(Ochenaid)
O derchafa'm henaid egwan!
  Y mae bellach yn hwyrhau;
Hir yw'r amser i och'neidio,
  Gwna fi o'r diwedd lawenhau:
Moroedd mawr a bryniau lawer,
  Pellder annyoddefol sy,
Ac anialwch maith digymhar,
  Rhyngof a'm Hanwylyd cu.

O foreuddydd y brïodas!
  Gwynfyd welai'r ddedwydd awr!
Gwel'd wyneb-pryd y Prïodfab,
  Clywed llais y delyn fawr!
Awn tan ganu tros y moroedd
  Meithion tua'r hyfryd wlad,
Ac anghofiwn hen gariadau,
  Gwag bleserau
      tŷ fy nhad.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Cwynfan Prydain (alaw Gymreig)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Hebron (Johann Crüger 1598-1662)
Trowbridge (<1811)

gwelir:
  Mae'r anialwch wedi mlino
  O am nerth i dreulio 'nyddiau
  O ynfydrwydd O ffolineb
  Wele'r hafan wele'r ardal
  Y mae gwres o fewn fy mynwes

(Longing for constant fellowship with God)
 
O arise, my weak soul!
  It is already late;
Long is the time for groaning,
  Make me at last rejoice;
Great seas, and many hills,
  An insufferable distance there are,
And a vast incomparable desert,
  Between me and my dear Beloved.

O that there were some delightful device
  Under all the blue sky,
That could keep my weak soul
  In thy company always;
I would never value, come what may,
  What would happen under heaven;
On thy fair, perfectly holy breast,
  Forever would I lean my head.

O the morning of the wedding,
  Blessed would I see the happy hour -
To see the countenance of the Bridegroom,
  To hear the voice of the great harp;
Let us go, singing, over the vast
  Seas towards the delightful land,
And let us forget old loves,
  The empty pleasures
      of my father's house.

                - - - - -
(Groan)
O arise, my weak soul!
  It is now getting late;
Long is the time for groaning,
  Make me at last rejoice:
Great seas and many hills,
  An insufferable distance there is,
And a vast incomparable desert,
  Between me and my dear Beloved.

O the morning of the marriage!
  How blessed to see the happy hour!
Seeing the countenance of the Bridegroom,
  Hearing the voice of the great harp!
Let us go while singing over the vast
  Seas towards the delightful land,
And let us forget old loves,
  The empty pleasures
      of my Father's house.
tr. 2018,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~