O euogrwydd fe mynyddau

(Gweddi ola'r Cristion)
O euogrwydd fel mynyddau!
  O feddyliau llawn o fraw!
Ofni bod yn fyr o bwysau
  Yn y glorian sydd gerllaw;
Mae fy amser bron a darfod,
  A fy mhechod ger fy mron;
Arglwydd, dyro dy adnabod,
  Yn y brofedigaeth hon.

Y mae ofnau a thywyllwch
  I'm hamgylchu y pryd hyn,
Arglwydd, dyro brawf o'th heddwch,
  Gwawria arnaf yn y glỳn;
Dangos i mi'r "enw newydd,"
  Bywyd gyda Christ yn Nuw,
Rho dy Ysbryd yn arweinydd
  Yn yr angeu - digon yw.

Tra mae calon yn llesmeirio,
  Mi orweddaf wrth dy droed,
Mae dy air i'm cynnorthwyo
  Yn yr awr gyfynga erioed;
A dy gedyrn addewidion
  I'm cysuro y pryd hyn;
Mae pob llawnder yn y Person
  A groeshoeliwyd ar y bryn.
Tra mae calon :: Tra mae'r calon

Casgliad o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

Tôn [8787D]: Diniweidrwydd (alaw Gymreig)

(The Christian's last prayer)
O guilt like mountains!
  O thoughts full of terror!
Fearing being shortly weighed
  In the scales that are at hand;
My time has almost passed away,
  And my sin is before me;
Lord, grant to know thee,
  In this testing.

Fears and darkness are
  Surrounding me at this time,
Lord, grant an experience of thy peace,39
  Dawn upon me in the vale;
Show to me the "new name,"
  Life with Christ in God,
Give thy Spirit as a guide
  In the death - sufficient it is.

While a heart is fainting,
  I will lie at thy feet,
Thy word is to uphold me
  In the most straitened hour ever;
And thy firm promises
  To comfort me at that time;
Every fullness is in the Person
  Who was crucified on the hill.
While a heart is :: While the heart is

tr. 2023 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~