O fore i hwyr, fel brefa'r hydd, 'Rwy'n wylo dagrau nos a dydd, Mewn awydd am fy Nuw; Tosturia'n rhad, O! maddeu'n rhwydd, Fy Anwyl Iôr, pâr imi lwydd, - Attolwg, f'Arglwydd clyw. Mewn dyrus daith, o dòn i dòn, Ac ofn a braw o dan fy mron, Yn mhlith gelynion lu; Mae arnaf hiraeth am dy hedd, A dy hyfrydlon, wiwlon wedd, I mi'n ymgeledd gu. Oferedd seinio, taro tant, Gan angel, seraph glân na sant, Yn y gogoniant gwiw; Heb gael dy wyddfod di o hyd, Hyn yw'r gogoniant oll i gyd, A'r gwỳnfyd, hyfryd yw. Pe gwenit ar fy enaid i, Gwnai'th wyneb grasol, Dwyfol Di, Fy lloni ar y llawr. Goleuai'm ffordd, cryfhai fy ffydd, Cawn fyn'd o'm rhwymau oll yn rhydd; O doed y ddedwydd awr.Robert Williams 1804-55 [Mesur: 886D] |
From morn until late, as bleats the hind, I am weeping tears night and day, In desire for my God; Have mercy freely, O forgive readily! My beloved Master, cause success for me, - Heed me I beg, my Lord hear. In a troublesome voyage, from wave to wave, And fear and terror under my breast, Amongst a host of enemies; I have a longing for thy peace, And thy delightful, cheerful, worthy countenance, To me a dear help. Vanity of sounding, striking a chord, By an angel, a holy seraph or saint, In the worthy glory; Without getting thy presence always, This is all the glory altogether, And the blessedness, delightful it is. If thou shouldst smile upon my soul, Thy gracious, divine face would Cheer me on the earth below. It would lighten my road, strengthen my faith, I would get to go from all my bonds free; O let the happy hour come!tr. 2024 Richard B Gillion |
|