O foreu-ddydd y briodas! O hyfrydaf ddedwydd awr! Gwel'd wynebpryd y Priodfab! Clywed sain y delyn fawr! Af tan ganu dros y moroedd, Hwyliaf tua'r nefol wlad; Ac anghofiaf hen ganiadau Gwag bleserau tŷ fy Nhad. Nerth os caf, mi frysiaf mwyach Tua'm hafaidd wlad fy hun, Lle mae'm Duw yn gwisgo'n berffaith Mewn gogoniant natur dyn: Na foed i mi gartref bellach, Fangre arall ond y ne'; Neb yn Dad, na neb yn Briod, Neb yn Arglwydd ond efe.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Breuddwyd (<1876) gwelir: Henffych Iesu'r Duw tragwyddol O am nerth i dreulio 'nyddiau Mae yr oriau yn fy ngalw Y mae gwres o fewn fy mynwes Y mae'r oriau yn fy ngalw |
O morn of the day of the marriage! O most delightful, happy hour! Seeing the countenance of the Bridegroom! Hearing the sound of the great harp! I will go singing over the seas, I will sail towards the heavenly land; And I will forget the old songs, The empty pleasures of my father's house. If I get strength, I shall hurry henceforth Towards my own summery land, Where my God is, perfectly dressed In the glory of the nature of man: May no other premises be home To me henceforth, but heaven; None as Father, nor anyone as Spouse, None as Lord but he.tr. 2019 Richard B Gillion |
|