O! fy Iesu'r Meddyg da, Atat dof i wella 'mhla; Ac os mynni, yn ddiáu Ti a elli fy nglanhau. Llawer o rai fel myfi A wellhawyd gennyt Ti; Pam yr ofna f'enaid mwy? Dal mae rhin dy farwol glwy'. Gwella pawb 'r wyt Ti heb ball, Byddar, mud, y cloff, a'r dall, Gwahangleifion, o bob rhyw - Wrth dy lais daw'r marw'n fyw. Ti yw'r unig Feddyg rhad, Anffaeledig ym mhob gwlad; Trwy dy ras a rhin dy groes, Meddyg ydwyt i bob oes. Ti yn unig, O! fy Nuw, A all drin fy nghalon friw; Golch fi'n llwyr, a byddaf lân, Ac i'th ras bydd byth fy nghân.J Gwyndud Jones 1831-1926
Tonau [7777]: |
O my Jesus, the good Physician, To thee I come to heal my plague; And if thou wilt, doubtless Thou canst cleanse me. Many of those like me Were healed by thee; Why shall my soul fear any more? The merit of thy mortal wound endures. Healing all art thou without fail, Dumb, mute, the lame, and the blind, Lepers, of every kind - At thy voice the dead come alive. Thou art the only gracious Physician, Unfailing in every land; Through thy grace and the merit of thy cross, A Physician art thou for every age. 'Tis thou alone, O my God, Who canst treat my bruised heart; Wash me completely, and I shall be clean, And to thy grace shall forever be my song.tr. 2020 Richard B Gillion |
|