O fy Nuw a'm tirion Arglwydd

(Y gwlaw graslawn)
O fy Nuw a'm tirion Arglwydd
  Rho'r cawodydd pur i lawr
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
  Sydd yn sychlyd iawn yn awr.
Dyro'r dylanwadau nefol,
  Ennyn bob rhyw ddwyfol ddawn
Rho Dy gariad a'th ymgeledd,
  Difa'r llygredd
      sy' ynwy'n llawn.
William Jones 1764-1822

Tonau [8787D]:
Bodawen (alaw Gymreig)
Engedi (J E Jones 1856-1927)

gwelir:
  P'le mae'r hen awelon hyfryd
  Tyred Ysbryd santeiddiolaf

(The gracious rain)
O my God and my gentle Lord,
  Send the pure showers down
To refresh my feeble spirit,
  Which is very thirsty now.
Grant the heavenly influences,
  Kindle every kind of divine gift
Send thy love and thy help,
  Destroy the corruption
      that is full in me.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~