O Geidwad fy enaid

(Tywysog Tangnefedd)
O! Geidwad fy enaid,
  Anfarwol dy fri,
Llawenydd seraffiaid
  Y nef ydywyt Ti;
Telynau nefolion
  A'th folant o hyd,
A'th gariad yw ffynnon
  Tangnefedd y byd.

Ar foroedd tymhestlog,
  Heb angor na llyw,
Mi wn fod Tywysog
  Tangnefedd yn fyw;
Fy mhryder a dderfydd
  Ar ymchwydd y lli
Yn sŵn Dy leferydd,
  "Tangnefedd i chwi."

Gorchfygaist farwolaith,
  Goleuaist y bedd,
A chlwyfus ddynoliaeth
  Yn disgwyl Dy hedd
Yn nos ei chaethiwed,
  Clyw, Iesu, ei chri,
Tyr'd ati, a dywed,
  "Tangnefedd i ti."
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923

[Mesur: 6565D]

(The Prince of Peace)
O Saviour of my soul,
  Immortal thy renown,
The joy of the seraphim
  Of heaven art thou;
Heavenly harps
  Shall praise thee always,
And thy love is the fount
  Of the peace of the world.

On tempestuous seas,
  With neither anchor nor wheel,
I know that the Prince
  Of peace is alive;
My worry shall cease
  Upon the swelling of the tide
At the sound of thy utterance,
  "Peace unto you."

Thou didst overcome death,
  Thou didst illuminate the grave,
With wounded humanity
  Awaiting thy peace
In the night of its captivity,
  Hear, Jesus, its cry,
Come to it, a say,
  "Peace unto thee."
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~