O gwyn ei fyd y dyrfa

("Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, &c.")
  O gwyn ei fyd y dyrfa,
  Sy'n canu Halaluia,
Cawn ninnau ddianc cyn bo hîr,
  I mewn i'r wîr orphwysfa;
  I ganu i drag'wyddoldeb,
  Mewn hwyl a nefol undeb,
Heb gwmwl rhyngom byth mewn hedd,
  A sirìoì wêdd ei wyneb.

  Y tir dymunol peraidd,
  Yr ardal hyfryd sanctaidd,
Ac oedd y'mhell yn sefyll draw,
  A ddaeth gerllaw o'r diwedd;
  Er lludded ac er blino,
  Na fydded im' ddiffygio,
Yr y'm yn nes-nes, awn ar frys,
  I mewn i'r llys yn gryno.

  Cawn orphwys yn ddiangol,
  O'n temtasiynau'n hollol,
Mewn maith dangnefedd pur, didrai,
  Sydd yn parhau'n drag'wyddol;
  A hyfryd ymddifyru,
Yn ein Hanwylaf Iesu,
  A threulio sabbath nefol gwiw,
  Trag'wyddol i'w foliannu.

  A chanu'r gân drag'wyddol,
  Am alw ac, ac am ethol,
Dyrchafu'r hwn fu ar y groes,
  Yn marw dros ei bobl;
  Ac yno ni gawn orphwys,
  Wedi'n gwnëyd yn gymhwys,
Tan gysgod pren y bywyd pur,
  O fewn y wir Baradwys.
  1 : Grawn-Sypiau Canaan 1805
2-4: William Williams 1717-91

Tonau [7787D]:
Hosanna (James Mills 1790-1844)
Noddfa (Joseph D Jones 1827-70)

gwelir:
  Mae'r dydd yn dod i fynu
  Y tir dymunol peraidd

(Unto him that loved us, &c.")
  O blessed is the throng,
  Who are singing Hallelujah,
We too may escape before long,
  Into the true resting-place;
  To sing for an eternity,
  In tune with heavenly unity,
With no cloud ever between us in peace,
  And the cheerful countenance of his face.

  The sweet amiable land,
  The delightful sacred region,
That was afar standing yonder,
  Has come at hand at last;
  Despite weariness and despite exhaustion,
  May we not fail,
We are ever nearer, let us go hurriedly,
  Into the court trembling.

  We shall get to rest in safety,
  Wholly from our temptations,
In vast, pure, unebbing tranquility,
  Which is eternally enduring;
  And delightfully take comfort,
In our beloved Jesus,
  And spend an eternal, worthy, heavenly
  Sabbath, to extol him.

  And singing the eternal song,
  For our calling, and for choosing us,
Exalting him who died on the cross,
  Dying for his people;
  And there we shall get to rest,
  Having been made qualified,
Under the shade of the tree of pure life,
  Within the true Paradise.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~