O! Iesu cadw fi Yn gyson yn dy waith, A grasol oleu'r nef Fo yn goleuo'r daith: Cryfha fy ffydd, rho help dy law I'm dwyn ymlaen i'r ochor draw. 'R wy'n ofni colli'r ffordd Bob dydd, o awr i awr, A minnau'n eiddil gwan Os colla' i'r nefol wawr: Er mwyn haeddiannau Calfari, O! Iesu da, bydd gyda mi. Pan ddelo'r olaf awr, A minnau yn y glyn, Dy hen addedwid fawr Fo gyda mi'r pryd hyn: O! clyw fy nghri, drugarog Iôr, A dwg fi i mewn i'r nefol gôr.George Penrith Thomas (Penrith) 1854-1952 Tôn [666688]: Alexandria (alaw Ellmynaidd) |
O Jesus, keep me Constantly in thy work, And may the gracious light of heaven Be lighting the journey: Strengthen my faith, give the help of thy hand To lead me onward to yonder side. I am fearing losing the way Every day, from hour to hour, And I feeble, weak, If I lose the heavenly dawn: For the sake of the merits of Calvary, O good Jesus, be with me! When the last hour comes, And I in the vale, May thy great, old promise Be with me at this time: O hear my cry, merciful Lord! And bring me into the heavenly choir.tr. 2023 Richard B Gillion |
|