O Iesu, gobaith yr holl fyd, Gobaith yr Indiaid draw; Cyflawna addewid fawr dy ras, I'r truan maes o law. Ti wyddost, Arglwydd, beth yw trai O eisieu dyfroedd pur; A bod yr anial maith yn gras Heb gael cysuron gwir. Mae temtasiynau'r ddraig yn gryf, A minnau d'wyf ond gwan; 'Nid oes ond dwyfol nerth y nef A'm deil i byth i'r lan. Mae llid o'r dwyrain ac o'r de, Am gael fy mhen i lawr; Tragwyddol gariad ydyw ef A'm dwg i'r lan ryw awr. Un radd o haeddiant addfwyn Oen, Sy fwy na'm beiau o'r bron; Ac yn ei rinwedd llawenhâf, Tan groesau'r ddaear hon.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: Christ's Church (<1835) gwelir: O edrych arnaf Arglwydd mawr |
O Jesus, the hope of the whole world, The hope of distant India; Fulfil the great promise of thy grace, To the wretches soon. Thou knowest, Lord, what is lacking From the need of pure waters; And that the vast desert is arid Without getting true comforts. The temptations of the dragon are strong, An I am only weak; There is only the divine strength of heaven That will hold me up forever. There is wrath from the east and from the south, To bring my head down; Eternal love is he Who will lead me up some hour. One degree of the merit of the dear Lamb, Is greater than my faults completely; And in his virtue I rejoice, Under the crosses of this earth.tr. 2021 Richard B Gillion |
|