O Iesu'm Ffrynd a'm Prynwr rhad; O'th galon wiw daeth môr o wa'd, I olchi'm ffiaidd friw: Rho i mi nerth i wneud fy nyth, I'm henaid bach i ymguddío byth, O fewn dy glwyfau gwiw. Rho im' orwedd yn dy gôl yn glyd, Yn barod fyn'd i'r nefol fyd, Os galw wna fy Nuw: O boed o'm cylch angylion hy, I'm cadw'n lân rhag uffern lu, S'am ddrygu'm henaid byw. Llettya heno'm Prynwr prudd, Rhwng fy nwyfron nes gwawrio'r dydd, Fel pwysi o nefol fyrr: Y borau, cymmer fi'n dy law, Ni roddwn dro i'r Ganaan draw, I wel'd p'radwysaidd dir.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 |
O Jesus, my Friend and my gracious Redeemer; From thy worthy heart came a sea of blood, To wash my detestable bruise: Give to me strength to make my nest, For my little soul to hide forever, Within thy worthy wounds. Grant me to rest in thy bosom securely, Ready to go to the heavenly world, If my God shall call: O may there be around me bold angels, To keep me wholly from a hellish host, Which wants to do harm to my living soul. Lodge tonight, my sad Redeemer, Between my breasts until the day dawns, Like pounds of heavenly myrrh: In the morning, take me by thy hand, We shall take a walk to yonder Canaan, To see the paradisiacal land.tr. 2020 Richard B Gillion |
|