O Iesu, maddau fod y drws ynghau A thithau'n curo, curo dan dristáu: Fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf, Gan g'wilydd ŵyneb methu agor 'rwyf. Ti biau'r tŷ; dy eiddo yw, mi wn; Ond calon falch sydd am feddiannu hwn: Mae'n cadw'i Harglwydd o dan oerni'r ne', Gelynion i ti sy'n y tŷ'n cael lle. Beth os rhoi 'fyny wnei, a'm gadael i? Pwy gennyf fydd, ar ol dy golli di? Mae sŵn dy lais ar drothwy'r tŷ yn fwy Na gwerth y byd i enaid dan ei glwy! Ai cilio 'rwyt? O aros, Iesu mawr; Mi godaf, ac agoraf iti nawr: Ni chaiff fy nghalon ddrwg na ch'wilydd gwedd Rwystro fy unig obaith byth am hedd. O torred gwawr maddeuant oddi fry, Yr awel sanctaidd gerddo drwy y tŷ! Mae'r drws yn ddatglo, dangos im dy wedd – Cael dod yn debyg iti fydd y wledd.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Telyn y Cristion 1902 Tôn [10.10.10.10]: Navarre (Sallwyr Genefa 1551) |
O Jesus, forgive that the door is closed And thou knocking, knocking while growing sad: My evil heart has given to thee a wound, With shame of face I am failing to open. Thou dost own the house; Thy possession it is, I know; But a proud heart wants to possess it: It is keeping its Lord under the coldness of the sky, Enemies to thee are in the house taking a place. What if thou didst give up, and leave me? Who would I have, after losing thee? The sound of thy voice at the threshold of the house is greater Than the worth of the world to a soul under its wound! Art thou retreating? O stay, great Jesus; I shall rise, and open to thee now: Neither my evil heart nor shame of face Shall obstruct my only ever hope of peace. O let the dawn of forgiveness break from above May the sacred breeze walk through the house! The door is unlocking, Show to me thy countenance - Getting to become like thee shall be the feast. tr. 2024 Richard B Gillion |
|