O Prynwr mawr y byd

(Llwyddiant yr Efengyl)
O, Prynwr mawr y byd,
Tyr'd bellach, mae'n llawn bryd,
  Mae yn brydnawn;
Gâd imi wel'd dy ras,
Ar fyr yn tori maes,
Tros wyneb daear las,
  Yn genllif llawn.

Mae doniau f'Arglwydd mawr,
Yn llifo oll i lawr,
  Fel môr didrai;
Tros dir Immanuel,
Yn hyfryd laeth a mêl,
A sicrwydd pur a sel
  Byth i barhau.
William Williams 1717-91

Tonau [664.6664]:
Beaumaris (<1875)
Gobaith (<1875)

(The Success of the Gospel)
O, great Redeemer of the world,
Come now, it is high time,
  It is evening;
Let me see thy grace,
Shortly breaking out,
Across the face of the blue-green earth,
  As a full torrent.

The gifts of my great Lord, are
All flowing down,
  Like an unebbing sea;
Across Immanuel's land,
As delightful milk and honey,
With pure certainty and a zeal
  Forever to endure.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~