O anwyl Arglwydd tyr'd i'n plith
O tyred Arglwydd yma i'n plith

(O flaen pregeth)
O tyred Arglwydd yma i'n plith,
Tyrd nefol Ysbryd, arnom chwyth;
  Gwasgara 'r holl gymylau sy
  'N tywyllu rhyngom a thydi.

Os teimlo gawn dy gariad mawr,
Ein beichiau gwympant oll i lawr;
  Pob enaid tlawd fydd wrth ei fodd,
  Yn cânu maes dy glod ar g'oedd.

Yn ol d'addewid, Iesu cu,
I fod lle byddo dau neu dri,
  Bydd yn ein mysg ar hyn o bryd,
  Tra byddo'th bobl yma'n nghyd.
tyred Arglwydd yma :: anwyl Arglwydd tyr'd

Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868

Tôn [MH 8888]:
Hereford (hen alaw eglwysig)

gwelir: O tyred Arglwydd tyr'd i lawr

(Before a sermon)
O come Lord here among us,
Come heavenly Spirit, blow upon us;
  Scatter all the clouds that are
  Darkening between us and thee.

If we get to feel thy great love,
Our burdens will all fall down;
  Every poor soul will be delighted,
  Singing out thy praise publicly.

According to thy promise, dear Jesus,
To be wherever there be two or three,
  Be in our midst at this time,
  While ever thy people are here together.
come Lord here :: dear Lord come

tr. 2019 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~