O tyred Awdwr hedd (A chyfod ni o'r bedd)

(Golwg ar wlad well)
O tyred Awdwr hedd,
A chyfod ni o'r bedd,
  Y pydew prudd;
Ein henaid griddfan mae
Am gael ei wir iachau;
O dere, dere'n glau,
  Rho ni yn rhydd.

Ond gweled 'rym y wlad,
A dedwydd dŷ ein Tad,
Dros fryniau pell -
  Ardaloedd lle y mae
Ffynnonau yn dyfrhau,
Llawenydd yn ddi-drai,
  Paradwys well.

'Does yma ddim i'w gael
Ond rhyw bleserau gwael,
  Na thâl mwynhau;
Mae'm hysbryd mewn rhyw gur
Am fyned cyn bo hir
I'r man mae gwynfyd pur
  Byth i barhau.

Mae cymmaint yma o boen
Heb gwmni'r anwyl Oen,
  Bob awr o'r dydd;
Gelynion creulon, cry',
Hen lewod mawrion lu,
A dreigiau'n drygu sy;
  O! na bawn rydd.
William Williams 1717-91

Tonau [664.6664]:
Bermondsey (<1835)
Bridgewater (<1845)
Dinbych (alaw Gymreig)
Llanddowror (alaw Gymreig)

gwelir:
  O Ffynnon werthfawr rad
O tyred Arglwydd mawr (Dihidla … )
O tyred Awdwr hedd (Rho i mi … )

(View over a better land)
O come, Author of peace,
And raise us from the grave,
  The sad pit;
Our soul is groaning
To get its true healing;
O come, come quickly,
  Set us free.

Only to see the power of the land,
And our Father's happy house,
Over distant hills -
Fountains watering,
Joy unebbing,
  A better paradise.

There is nothing to be got here
But some poor pleasures,
  Enjoyment of which does not pay;
My spirit is in some ache
To go before long
To the place where pure blessedness is
  Forever to endure.

There is here so much pain
Without the company of the gentle Lamb,
  Every hour of the day;
Cruel, strong enemies,
A host of great, old lions,
And dragons that do evil;
  O that I might be free!
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~