O dere fy Anwylyd fy Arglwydd yn ddyn
O tyr'd fy Anwylyd fy Arglwydd yn ddyn
O tyred f'Anwylyd fy Arglwydd yn ddyn

1,2,3,4,5,6,7;  1,(4,6),7,8;  1,6,7;  1,7,6.
(Gweddi am gymdeithas â Duw)
O! tyred, f'Anwylyd,
    fy Arglwydd yn ddyn,
Preswylia mewn teml
    a g'odaist Dy Hun;
  Dy lais sy mor beraidd,
      mor hyfryd Dy wedd,
  Dy olwg sy'n concro
      marwolaeth a'r bedd.

Ti wnest yma adeilad,
    trig yno dy Hun,
Gwna 'nghalon fod wrthyt
    bob amser ynglyn
  Nas gallo na phechod,
      na Satan, na'r byd
  Fyth, fyth i wahanu'r
      hyn glymaist Ti 'nghyd.

Yng nghanol pob cystudd
    rho imi dy law,
Nas collwy' mo'r llwybyr
    tu yma, tu draw;
  Saf rhyngwy' a'r gelyn
      bob brywdyr a fydd,
  Fel na bwyf i ofni
      ym mhoethder y dydd.

O! na'd i mi gwympo,
    nid ydwyf ond gwan,
Bydd rhyngwyf a'r saethau,
    a chynnal fi i'r lan;
  Fe'th glwyfwyd di unwaith
      ar Galfari fry;
  Oddi yno doed rhyddid
      yn unig i mi.

Ffoed ymaith fy ofnau,
    finteioedd di-ri';
Rho atsain maddeuant
    yn eglur i mi,
  A dysg imi ganu
      caniadau o glod
  Am farw ar groedbren
      tr'o'm tafod mewn bod.

Boed côf am y mynydd,
    boed côf am yr awr,
Daeth ffrydiau o ystlys
    fy Arglwydd i lawr;
  Gwaed wedi ei gymysgu
      â dwfr ynghyd,
  Mwy gwerthfawr bob dafn
      o hono na'r byd.

Boed imi'n hyfrydwch,
    o foreu hyd nôs,
I ganu am gariad
    a choncwest Ei groes -
  Gogoniant Ei berson,
      rhinweddau pob grâs,
  Trwy boenau ofnadwy
      yn enill y maes.

Gad imi gael heddwch,
    y perl sy'n fwy drud
Na meddiant holl India'r
    Gorllewin i gyd;
  Mae gradd o dangnefedd
      fy Iesu mor fawr,
  Fe bwysa ei hunan
      y nefoedd a'r llawr.
sy'n concro marwolaeth :: orchfyga farwolaeth
gariad a choncwest Ei groes :: gariad rhyfeddol dy gro's
Ei berson :: dy Berson

William Williams 1717-91

Tonau [11.11.11.11]:
Gorton (<1897)
Joanna (alaw Gymreig)
Maldwyn (alaw Gymreig)
Morganwg (<1875)
Schubert (Franz Schubert 1797-1828)
Vernon (<1875)
Wareham (William Knapp 1798-1868)

(Prayer for fellowship with God)
O come, my Beloved,
    my Lord as man,
Dwell in a temple
    Thou Thyself raised;
  Thy voice is so sweet,
      so delightful Thy face,
  It is Thy look which is conquering
      death and the grave.

Thou madest here a building,
    dwell in it thyself,
Make my heart connected
    to thee all the time
  That neither sin, nor Satan,
      nor the world, could
  Ever, ever weaken that
      which thou didst tie together.

In the middle of every affliction
    give me thy hand,
That I do not miss the path,
    this side, yonder side;
  Stand between me and the enemy
      in every battle there shall be,
  That I fear not
      in the heat of the day.

O do not let me fall,
    I am only weak,
Be between me and the arrows,
    and hold me up;
  Thou wast wounded once
      up on Calvary;
  From there let freedom only
      come to me.

Let my fears flee away,
    as innumerable droves;
Give the resounding sound of forgiveness
    clearly to me,
  And teach me to sing
      the songs of praise
  About dying on the wooden cross
      while ever my tongue shall be.

Let there be remembrance of the mountain,
    let there be remembrance of the hour,
When came the streams of the side
    of my Lord down;
  Blood mixed
      together with water,
  More precious every drop
      of this than the world.

Let it be a delight for me,
    morning until night,
To sing about the love
    and conquest of His cross -
  The glory of His person,
      the merits of every grace,
  Through terrible pains
      winning the field.

Let me get peace,
    the pearl that is more costly
Than possessing all India of the
    East altogether;
  The degree of the peace of
      my Jesus is so great,
  It outweighs the
      heavens and the earth.
which is conquering death :: which overcomes death
love and conquest of His cross :: wonderful love of thy cross
His person :: thy Person

tr. 2016,18 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~