yn rhoddi ei Fab i ddioddef drostynt) O Wraig yr Oen, gwel gariad Duw, Yn rhoddi ei Fab dros ddynol-ryw! Mawr gosb ein bai aeth arno fe, A'r llid a'i lladdodd yn ein lle. O gwelwn driniaeth Crist ar groes, O'n hachos ni dan lawer loes; Na's gall un tafod angel pur, Amgyffred cariad Crist a'i gur. Fel Oen i'r lladdfa arweiniwyd ef, Creawdwr mawr y ddaear a'r nef; Distewi wnai fel addfwyn oen, Er ffyrnig bwys uffernol boen. Nyni yn pechu o'r galon oll, Nes i ni yn gwbl fynd ar goll; Ein Pen i roddi in' ryddhad, Collodd o'i galon wirion wa'd. Mae'n Priod uwchlaw clod ymhell, Y gallu gwycha' 'r 'wyllys gwell; Rhyfeddu byth ei gariad ef, I'w gwaith aneirif nifer nef.Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol (Harri Sion) 1773 [Mesur: MH 8888] |
in giving his Son to suffer for them) O Wife of the Lamb, see the love of God, Giving his Son for human-kind! The great punishment of our sin went upon him, And the wrath that killed him in our place. O let us see Christ's treatment on a cross, Because of us under many a pang; No tongue of a pure angel can Grasp the love of Christ and his pain. Like a Lamb to the slaughter he was led, The great Creator of the earth and heaven; He kept silent like a gentle lamb, Despite the fierce weight of infernal pain. We all sinning from the heart, Until we completely become lost; Our Head to give us freedom, Shed from his heart innocent blood. He is a Spouse far above praise, The most wondrous power of the better will; Wondering forever at his love, Is the work of the innumerable number of heaven.tr. 2021 Richard B Gillion |
|