1,(2,4),5; 1,3,5. O! Ysbryd Sancteiddiolaf, Anadla arna'i lawr, O'r cariad anchwiliadwy Sy'n nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, 'Rwy'n dysgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. Digoner fi a'th ddelw Ddigymhar uwch y nen, A gollais yn Mharadwys Wrth fwyta frwyth y pren; Rhoi'st imi fil fendithion, Ond byth anfoddlon wy', O eisieu cael dy Ysbryd A'i anian nefol fwy. Wel dyma'r man dysgwyliaf O fore hyd brydnawn, Ar fy eilunod taeog Fod yn goncwerwr llawn: Dy Yspryd, Iesu grasol, A all fy ngwneyd yn lān; Mil mwy sydd ganddo o allu Nag sydd yn uffern dān. 'Mhen gronyn byddai'n gorwedd O fewn y ddaear ddu; Y tafod sy'n gweddio Yr awrhon arnat Ti, A bydra yn y dyfnder, Ni lefa arnat mwy; O, edrych ar fy nghystudd, Iachā fy ngwahan-glwy'. O! Ysbryd pur nefolaidd, Cyn 'r'elwy' lawr i'r bedd, Trwy ryw athrawiaeth hyfryd, Gad imi brofi'th hedd! Cael profi blas maddeuant, Maddeuant llawn a rhad, Yw'r cynta' peth wy'n geisio, Yn awr trwy rin y gwaed.William Williams 1717-91 - - - - - O! Ysbryd Sancteiddiolaf, Anadla arna'i lawr, O'r cariad anchwiliadwy Sy'n nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, 'Rwy'n dysgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. Tyrd, Ysbryd Glān sancteiddiol, Anadla'r nefol ddawn: Gwna heddiw gynnwrf grasol Mewn esgyrn sychion iawn: Dy nerthoedd rhoi gydfyned Ā geiriau pur y nef; Dy air yn nerthol rheded, Mewn goruchafiaeth gref.1: William Williams 1717-91 2: Thomas Jones 1756-1820
Tonau [7676D]: gwelir: Ei waith fel Archoffeiriad O Ysbryd pur nefolaidd Tyr'd Ysbryd Glān sancteiddiol |
O most Holy Spirit, Breathe down upon me, From the unsearchable love Which is in the heart of great Jesus; Through the merit of the Lamb of Calvary, And in his gracious wounds, I am waiting every moment For purity from my Father. Satisfy me with thy image Incomparable above the sky, Which I lost in Paradise By eating the fruit of the tree; Thou gavest to me a thousand blessings, But forever unsatisfied I am, From need of getting thy Spirit And his heavenly nature evermore. See here is the place I am expecting From morning until evening, Over my servile idols To be a full conqueror: 'Tis thy Spirit, gracious Jesus, That can make me clean; He has a thousand times more power Than there is in hell fire. After a while I would be lying Within the black earth; The tongue which is praying This hour to Thee, Shall decay in the depth, It shall no more cry to thee; O, look upon my affliction, Heal my leprosy. O pure, heavenly Spirit, Before I go down to the grave, Through some delightful teaching, Let me experience thy peace! To get to experience a taste of forgiveness, Forgiveness full and free, Is the first thing I am seeking, Now through the virtue of the blood. - - - - - O Most Holy Spirit, Breathe down upon me, From the unsearchable love Which is in the heart of great Jesus; Through the merit of the Lamb of Calvary, And in his gracious wounds, I am waiting every moment For purity by my Father. Come, sanctifying Holy Spirit, Breathe the heavenly gift: Make today a gracious stirring Within very dry bones: Thy powers grant to confirm The pure words of heaven; May thy word run powerfully, In a strong supremacy.tr. 2016,18 Richard B Gillion |
|