Os byth gofynir beth yw Duw

(Daioni Duw)
Os byth gofynir beth yw Duw,
Atebir mai daioni yw;
  Mae'r oll a wnaeth erioed yn dda,
  Pob peth mae'n wneyd,
      pob peth a wna.

Da yw ei holl weithredoedd Ef,
O'r ddaiar hon i uchder nef;
  Daioni a doethineb maith
  Sydd argraffedig ar ei waith.

Yr holl fydysawd sydd yn llawn
Amlygrwydd o'i
    annhreithol ddawn;
  Ag unol lais dadgana'n hŷ
  Mai llawn daioni yw'n Duw ni.

Mae'n annherfynol yn ei rym,
Ei rwystro ef nis dichon dim;
  Yr oll mae'n ewyllysio, gwna,
  A'r oll a eill sy berffaith dda.

Daioni pur yw'r oll a wnaeth;
Pob da yn mhawb o Dduw y daeth;
  Nid oes un da drwy'r
      llawr na'r nef
  Ond ffrydiau o'i ddaioni Ef.

Angelion glān y nefoedd glwys,
Mynegwch faint
    ei ddoniau dwys, -
  Pa faint yw golud
      gras ein Duw,
  A'i roddion rhad i ddynol ryw.

Cydganed teulu'r nef yn awr
Mewn peraidd gān
    ā llu y llawr,
  Byth am ddaioni
      Tri yn Un
  Yn trefnu ffordd i gadw dyn.

O gariad a daioni'r Tad
Y trefnwyd prynedigaeth rād;
  I wneuthur da i annheilwng ryw
  Bu Iesu farw i ni gael byw.

Bendithion ar fendithion pur,
Gwerth gwaed
    Immanuel a'i gur,
  Sy'n llifo'n rhad lle'r ŷm yn byw,
  Yn unig o ddaioni Duw.

Er cymaint
    gorthrymderau'r byd,
Mae'r cyfan er daioni i gyd;
  Pob peth yn cydweithredu sydd
  Er lles i etifeddion ffydd.

Mor dda yw Duw yn galw dyn
O feddiant Satan ato ei hun!
  Gan ei fwyn wahodd
      draw o bell,
  I dderbyn y trysorau gwell.

Mae'n cynnyg rhoddi'r
    nefol wlad
I bawb sy'n derbyn ei Fab rhad;
  A choron aur,
      anfeidrol fraint,
  Sydd yno'n aros pawb o'r saint.
D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903
Blodau Ieuainc 1843

gwelir:
  Mor fawr yw golud grās ein Duw
Pob da yn mhawb o Dduw y daeth

(The Goodness of God)
If it is ever asked what is God,
It will be answered that he is good;
  All he will ever do is good
  Everything he has done,
      everything he does.

Good are all his deeds,
From this earth to the height of heaven;
  Vast goodness and wisdom
  Are printed on his work.

The whole universe is full
Of the abundance of
    his unspeakable talent;
  With a united voice is declares boldly
  That full of goodness is our God.

He is boundless in his power,
Nothing can frustrate him;
  All that he wills, he does,
  And all he can is perfectly good.

Pure goodness is all he did;
All good in everyone from God it came;
  There is not one good thing
      throughout the earth or heaven
  But streams from his goodness.

Ye holy angels of the beautiful heavens,
Express ye the extent
    of his profound gifts, -
  How great is the wealth
      of the grace of our,
  And his gracious gifts to human kind.

Let the family of heaven sing together now
In a sweet song with the
    host of earth below,
  Forever about the goodness
      of the Three in One
  Arranging a way to save man.

From the love and goodness of the Father
Was arranged gracious redemption;
  To do good to an unworthy sort
  Did Jesus die for us to get to live.

Pure blessings upon blessings,
The worth of the blood of
    Immanuel and his wound,
  Which flows freely where we are living,
  Alone of the goodness of God.

Despite the extent of
    the world's afflictions,
The whole is all for good;
  Every thing is working together
  For the benefit of the heirs of faith.

How good is God calling man
From the possession of Satan unto himself!
  Since his gentle invitation
      yonder from afar,
  To accept the better treasures.

He is offering the gifts of the
    heavenly land
To all who are receiving his gracious Son;
  And a golden crown,
      an immeasurable privilege,
  Is there awaiting all of the saints.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~