Os byth y try fy ngobaith

Os byth y try fy ngobaith
    yn helaeth lawn fwynhâd,
A'm ffydd yn olwg perffaith,
    yn helaeth dŷ fy nhâd,
  Lle na ddaw gelyn iddi,
      i beri i mi boen,
  Bydd yno ganu rhyfedd
      am rinwedd gwaed yr Oen.

Os cofiwn 'nol myn'd adrau,
    ein beiau yn y byd,
Ac mai wrth ddinas dystryw
    y cafodd Duw ni i gyd,
  Ac iddo â'i waed ein golch,
      a'n gloywi'n ddigon glân,
  Bydd hyny byth o'i gofio
      yn gwych adfywio'r gân.

Gogoniant yr ail Adda,
    a fydd y pena' pwynt,
Angylion o bob graddau,
    a ninnau gydâ hwynt
  Mewn undeb a chyd-gordiad,
      am gariad Duw ar g'oedd,
  Yn dyrfa ogoneddus,
      mewn gorfoleddus floedd.

O ddiwrnod gwynfydedig!
    O fendigedig awr!
Cael profi'r iechydwriaeth,
    y feddyginiaeth fawr,
  Yn llwyr lanhâu 'ngwahanglwyf,
      tra byddwyf yma'n byw,
  I'm gwneuthur yn gyfaddau,
      i gael cymdeithas Duw.

O hwylia 'nhraed i redeg
    yr yrfa'n dêg bob dŷdd;
Heb gloffi ar fy ngyrfa,
    ac na ddiffygia'm ffŷdd,
  Gan roddi pob peth heibio,
      a all fy rhwystro i,
  Ond rhedeg, gan ymnerthu,
      bob dydd, yn d'allu di.

O Dduw, gorchfyga'm llygredd,
    trwy rinwedd dy râd râs
Rho'r ffŷdd a buro 'nghalon,
    o'i throion ceimion câs,
  Ac a orchfygo hefyd y byd,
      a'i ysbryd ef,
  Er mwyn yr Iawn dymunol,
      sy'n eiriol yn y nêf.
Edward Jones 1761-1836
Hymnau ar Amryw Destynau ac Achosion 1820

[Mesur: 7676P]

If ever my hope turns
    into generous full enjoyment,
And my faith into perfect sight,
    in the generous house of my Father,
  Where no enemy shall come into it,
      to cause me pain,
  There shall be wonderful singing
      about the merit of the Lamb's blood.

If we remember after going home,
    our faults in the world,
And that by the city of destruction
   God got us all,
  And to him who washes us with his blood,
      and shines us sufficiently clean,
  That shall never be forgotten
      brilliantly reviving the song.

The glory of the second Adam,
    shall be the chief point,
Angels of all degrees,
    and we with them
  In union and a harmonizing,
      about the love of God publicly,
  As a glorious throng
      in a jubilant shout.

O blissful day!
    O blessed hour!
To get to experience the salvation,
    the great healing treatment,
  Completely cleansing my leprosy,
      while I am here living,
  To make me confess,
      to get fellowship with God.    

O enliven my fee to run
    the course fairly every day;
Without stumbling on my course,
    nor my faith failing,
  While putting everything aside,
      that can frustrate me,
  But running, while taking strength,
      every day, in thy power.

O God, overcome my corruption,
    through the merit of thy free grace
Grant the faith that would purify my heart,
    from its hated twisting steps,
  And would also overcome the world,
      and its spirit,
  For the sake of desirable Atonement,
      that is interceding in heaven.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~