O Arglwydd grasol, trugarha, A symud bla y gwledydd; Darostwng falchder calon dyn, A nwydau'r blin orthrymydd; A dysg genhedloedd byd o'r bron I rodio'n isel ger dy fron; Iôr union, bydd arweinydd. Mae'r nos yn ddu, a ninnau 'mhell, A throm yw'r fflangell arnom; Crwydrasom i'r anialwch maith A'th gyfraith wrthadasom; O Arglwydd, maddau inni cyd Gymylu d'enw 'ngŵydd y byd, A dod dy Ysbryd ynom. Aed golau'r groes a'r nefol ddydd Drwy wledydd daear lydan, A phrofer rhin Efengyl wiw Yn allu duw ei hunan; Doed holl genhedloedd daear las I gyd-ddyrchafu baner gras A dymchwel teyrnas Satan.John T Job 1867-1938 Yr Efengylydd 1917
Tonau [87.87.887]: |
O gracious Lord, have mercy, And remove the scourge of the nations; dubdue the pride of the heart of man, And the passions of the grievous oppressor; And teach the nations of the world entirely To travel humbly before thee; Just Master, be leader. The night is black, and we are remote, And heavy is the whip upon us; We wandered into the vast desert And we clashed with thy law; O Lord, forgive us though we Obscure thy name before the world, And put thy Spirit in us. May the light of the cross and the heavenly day go Through the lands of the wide earth, And may the virtue of the worthy Gospel be proved In God's own might; May all the generations of the blue-green earth come To exalt together the banner of grace And demolish the kingdom of Satan.tr. 2009 Richard B Gillion |
|