O Arglwydd grasol trugarhâ (A gwrando lais y gwan)
O Arglwydd grasol trugarhâ (Ac erglyw lais y gwan)

1,2,3,4,5;  1,2,5,4,3.
(Llef y Gwan)
O Arglwydd grasol, trugarhâ,
  A gwrando lais y gwan:
Amlyga'th hun i'm henaid cla'
  Cyn myn'd i'r bythol fan.

Mewn poen a gofid rhaid im' fod,
  Heb weled gwedd fy Nuw;
Mewn gwae a th'w'llwch dan y rhod,
  Heb nabod Iesu gwiw.

O tyred, Arglwdd, tyr'd yn glau,
  Rho f'enaid caeth yn rhydd;
Doed diwedd ar fy mhoenus wae,
  A hedd i'm hysbryd prudd.

Dy hyfryd lais, dy hawddgar wedd,
  A lwyr foddlona mryd:
Dy gariad sydd ddigonol wledd,
  Uwch holl bleserau'r byd.

Dy iachawdwriaeth, Arglwydd mawr,
  O dod yn rhan i mi,
A gād im' weled hyfryd wawr
  Boreuddydd jubili.
A gwrando :: Ac erglyw
Boreuddydd jubili :: Diwrnod o rydd-did cu

John Hughes 1776-1843
Diferion y Cyssegr 1804

Tonau [MC 8686]:
Bangor (William Tans'ur 1706-83)
Claudius (Arthur H Mann 1850-1929)
Darmstadt (1666 Kreiger)
Silesia (Adam Kruger)

(The Cry of the Weak)
O gracious Lord, have mercy,
  And listen to the voice of the weak:
Reveal thyself to my wounded soul
  Before going to the eternal place.

In pain and worry I must be,
  Without seeing my God's face;
In woe and darkness under the sky,
  Without knowing worthy Jesus.

O come, Lord, come quickly,
  Set my captive soul free;
Let there be an end to my painful woe,
  And peace to my sad spirit.

Thy pleasant voice, thy beautiful face,
  Completely satisfy my mind:
Thy love is a sufficient feast,
  Above all the pleasures of the world.

Thy salvation, great Lord,
  May it come to be my lot,
And let me see the  delightful dawn
  Of the morn of Jubilee.
::
Of the morn of Jubilee :: A day of dear freedom

tr. 2011 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~